Pencampwriaeth Rygbi Unedig: Caerdydd 23-29 Scarlets
- Cyhoeddwyd
Caerdydd 23-29 Scarlets
Y Scarlets enillodd y gêm ddarbi fawr ym Mharc yr Arfau gan lwyddo i sgorio pum cais yn erbyn 14 dyn Caerdydd.
Caerdydd ddechreuodd y gêm orau, gyda'r mewnwr Tomos Williams yn sgorio'r cais cyntaf wedi gwaith da gan y blaenwyr.
Cam Winnett sgoriodd yr ail gais i'r tîm cartref yn dilyn symudiad a welodd y bêl yn cael ei lledu i'r cefnwr a lwyddodd i groesi yn y gornel.
Daeth cais cynta'r Scarlets wrth i Johnny Williams ddod o hyd i fwlch yn amddiffyn Caerdydd, cyn bwydo Gareth Davies.
Ac o fewn ychydig funudau roedd y gêm wedi ei thrawsnewid wrth i Alex Craig sgorio ail gais i'r ymwelwyr, cyn i flaenasgellwr Caerdydd, Ellis Jenkins, dderbyn cerdyn coch am dacl beryglus.
Y Scarlets oedd ar y blaen ar yr egwyl wedi i Davies groesi am yr eildro.
Fe wnaeth yr ymwelwyr sicrhau pwynt bonws wrth i Steff Evans groesi, cyn i Johnny McNicholl sgorio pumed cais y Scarlets gyda deg munud yn weddill.
Mae'r canlyniad yn golygu bod y Scarlets yn codi i'r trydydd safle ar ddeg yn y tabl, tra bod Caerdydd yn y 12fed safle.
Lions 49-24 Dreigiau
Canlyniad siomedig arall i'r Dreigiau yn Ne Affrica er i'r tîm cartref fynd lawr i 14 dyn yr hanner cyntaf.
Aeth y Dreigiau ar y blaen drwy gais cynnar Harrison Keddie yn dilyn gwaith ardderchog gan Aaron Wainwright a Jordan Williams.
Fe darodd Lions yn ôl wrth i Henco van Wyk sgorio cais unigol arbennig wedi iddo gario'r bêl o'i hanner ei hun.
Roedd 'na gerdyn coch cynnar i'r tîm cartref ar ôl i Ruben Schoeman daclo Ashton Hewitt oddi ar y bêl.
Ond er bod ganddyn nhw un dyn yn llai, fe aeth Lions ar y blaen cyn yr egwyl - unwaith eto yn cario'r bêl o'u llinell cais eu hunain cyn i Quan Horn orffen y symudiad o dan y pyst.
Daeth cais arall i Lions yn gynnar yn yr ail hanner drwy Edwill van de Merwe.
Fe sgoriodd Ashton Hewitt gais ardderchog i roi gobaith i'r Dreigiau, ond o fewn munudau roedd Morné van den Berg wedi croesi i sicrhau pwynt bonws i Lions.
Fe sgoriodd Bradley Roberts gais hwyr i'r Dreigiau, ond fe ymatebodd y tîm cartref drwy sgorio dau gais arall - Quan Horn a Edwill van de Merwe gyda'r ceisiau.
Mae'r Dreigiau yn parhau ar waelod y Bencampwriaeth Rygbi Unedig.
Benetton 18-13 Gweilch
Daeth y Gweilch o fewn trwch blewyn i ennill gêm oddi cartref am y tro cyntaf y tymor hwn, ond fe lwyddodd Benetton i gipio'r fuddugoliaeth gyda chais yn y munudau olaf.
Er i'r Gweilch amddiffyn yn gadarn, y tîm cartref oedd ar y blaen ar yr egwyl diolch i gais gan y bachwr Bautista Bernasconi.
Ond fe darodd yr ymwelwyr yn ôl yn gynnar yn yr ail hanner - wrth i Max Nagy sgorio cais unigol arbennig.
Fe ddefnyddiodd Nagy ei gryfder i wthio heibio Jacob Umaga, cyn cario'r bêl am 40m a chroesi yn y gornel.
Luke Davies sgoriodd yr ail gais i'r Gweilch, ar ôl twyllo amddiffynwyr Benetton gyda symudiad da o'r lein.
Ond ar ôl i Umaga unioni'r sgôr gyda'i giciau cosb, fe sgoriodd Giacomo Da Re gais hwyr i sicrhau'r pwyntiau i'r Eidalwyr yn Treviso.
Fe gafodd y Gweilch bwynt bonws gan fod y golled o fewn saith pwynt, ac maen nhw'n parhau yn yr unfed safle ar ddeg yn y tabl.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Tachwedd 2023
- Cyhoeddwyd24 Tachwedd 2023