Cais i adfer cyn-hostel Nos Da yng nghanol Caerdydd
- Cyhoeddwyd
Mae perchnogion newydd yn gobeithio adfer cyn-hostel yng Nghaerdydd a'i ailagor fel gwesty.
Caeodd hostel Nos Da, ar lan Afon Taf, ei drysau yn dilyn cyfnodau clo pandemig Covid-19.
Daeth y safle yn ddolur llygaid yn sgil hynny, gyda sbwriel, geriach yn ymwneud â chyffuriau, a thipio anghyfreithlon yn gorfodi Cyngor Caerdydd i anfon tîm arbenigol i'w glirio yn Nhachwedd 2022.
Rhoddwyd yr hostel ar y farchnad am £1m ym mis Awst eleni, ac mae'r perchnogion newydd wedi gwneud cais cynllunio i adfer yr adeilad a chreu llety, bar, caffi, a gardd ddinesig ar y safle yn ardal Glan-yr-Afon o'r ddinas.
On The River fydd enw'r fenter newydd, a chwmni MC2MB Ltd sy'n gobeithio symud ymlaen gyda'r datblygiad.
Dywedodd eu cyfarwyddwr, Matt Bryant, fod Caerdydd "angen llety o safon ar lannau'r afon".
"Bydd On the River yn gymysgedd unigryw o le cysgu a mannau hamddena," meddai.
"Nid ailwampiad yn unig yw hwn - mae'n rhoi bywyd newydd i safle fydd yn tyfu'n hwb bywiog, fydd yn cysylltu'r gymuned gyda chyfleusterau modern a fydd yn parchu ei hanes cyfoethog," meddai.
Mae'r cais cynllunio hefyd yn cynnwys creu canopi newydd a balconïau yn edrych dros yr afon, a bydd dros 40 o raciau beics yn disodli'r hen faes parcio.
Eu bwriad oedd meithrin cysylltiadau gyda'r gymuned, a chynnal digwyddiadau rheolaidd yno ar gyfer "diddordebau lleol, eang", meddai Mr Bryant.
Ychwanegodd ei gyd-gyfarwyddwr, Michel Cartis, fod y cwmni'n bwriadu gwneud On the River yn lleoliad oedd yn cynnig "rhywbeth cyffrous ac unigryw" fyddai'n cynnal pob math o ddigwyddiadau "o gemau rygbi rhyngwladol i benwythnos Pride".
Mae'r cwmni'n gobeithio cwblhau'r cynlluniau erbyn gwanwyn 2024.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Tachwedd 2022