Y Bencampwriaeth: Abertawe a Chaerdydd yn ennill
- Cyhoeddwyd
Roedd yna fuddugoliaeth i'r Elyrch adref yn erbyn Preston nos Wener a hynny wrth i James Paterson rwydo yn yr eiliadau olaf - pum munud heibio'r 90 munud.
Gêm ddigon di-fflach oedd hon, roedd y ddau dim angen pwyntiau - Abertawe o dan oruchwyliaeth dros dro Alan Sheehan yn llusgo yn rhy agos i waelodion y tabl, tra bod Preston ar rediad gwael ac wedi colli'n drwm i Watford dros y Sul.
Daeth y gôl gyntaf i Abertawe ar ôl awr o chwarae - Paterson yn rhwydo wedi i Matt Grimes basio'r bêl yn grefftus ato.
Deffrodd y gêm ac ymhen saith munud roedd Preston wedi rhwydo drwy Liam Millar.
Roedd hi'n ymddangos fel gêm gyfartal wedi hynny, er i sawl cyfle ddod i'r ddau dîm.
Ond gyda'r chwiban olaf yn dod yn nes, llwyddodd Liam Cullen i gael y bêl at draed Paterson unwaith eto, a gyrrodd y bêl i gornel isaf y rhwyd, er mawr ryddhad i Alan Sheehan ac roedd y dorf yn Abertawe yn dathlu.
Caerdydd yn ennill hefyd
Tim gwaelodion y Bencampwriaeth oedd yn croesawu Caerdydd ddydd Sadwrn ac yn annisgwyl Sheffield aeth ar y blaen gyntaf.
Roedd hanner awr wedi ei chwarae pan ddaeth y bêl at droed dde Anthony Musaba ac fe blannodd y bêl yng nghanol y rhwyd.
Siomedig iawn oedd perfformiad Caerdydd yn yr hanner cyntaf a Sheffield oedd yn parhau i reoli'r chwarae yn yr ail hanner.
Ond er gwaethaf hynny fe lwyddodd yr Adar Gleision i unioni'r sgôr gyda'u hymdrech gyntaf ar y gôl ar ôl 74 munud - Perry Ng yn pasio'r bêl i Karlan Grant ar ochr y blwch cosb, ac yntau yn rhoi ergyd droed dde i gornel y rhwyd.
Roedd agwedd Caerdydd yn wahanol iawn ar ôl unioni'r sgôr, ac roedd amddiffyn Sheffield dan bwysau trwm yn y chwarter awr olaf.
Fe ddaeth ail gôl i'r ymwelwyr - ergyd droed chwith gan Ollie Tanner yn cael ei harbed ond roedd y bêl yn rhydd yn y cwrt cosbi ac fe wnaeth Akin Famewo roi'r bêl yn ei rwyd ei hun.
Buddugoliaeth annisgwyl i Gaerdydd felly gan godi i'r degfed safle yn y Bencampwriaeth.