Y nos a ni: Y ferch sy'n caru'r tywyllwch

  • Cyhoeddwyd
Dani RobertsonFfynhonnell y llun, Dani Robertson
Disgrifiad o’r llun,

Dani Robertson

Pan symudodd Dani Robertson o Fanceinion i Sir Fôn yn ferch fach saith mlwydd oed, doedd hi erioed wedi gweld awyr mor dywyll na sêr mor ddisglair.

"Doedden ni methu gweld dim byd ym Manceinion achos roedd lot o lygredd golau, ond pan wnaethon ni symud i Ynys Môn, y peth cynta' dwin gallu gofio ydy pa mor dywyll oedd o," eglura.

Dros 25 mlynedd yn ddiweddarach, mae Dani'n gweithio fel Swyddog Awyr Dywyll i Barc Cenedlaethol Eryri ac mae hi newydd gyhoeddi llyfr All Through The Night gydag un o weisg amlycaf yr iaith Saesneg, Harper Collins.

Ni feddyliodd Dani erioed y byddai ymddangos ar raglen Countryfile yn 2021 yn arwain at neges gan wasg Harper Collins yn gofyn iddi ysgrifennu llyfr am ei pherthynas â thywyllwch ac effaith llygredd golau ar fywyd ar y ddaear.

"Mae'n teimlo mor swreal," meddai. "Ro'n i yn Ardal y Llynnoedd rai wythnosau yn ôl a wnes i weld y llyfr yn Waterstones yno ac roedden nhw isio i fi lofnodi copïau… Dydi o heb sincio i mewn eto."

O Fanceinion i Ynys Môn

Mae Dani wedi bod â diddordeb yn y sêr ers iddi gofio; arferai ei thad wrando ar y seryddwr Syr Patrick Moore ar y radio, a phan symudodd y teulu o Fanceinion i Ynys Môn, byddai ei thad yn mynd â hi wylio'r sêr ar noson glir.

"Roedd o'n mynd â fi allan bob nos pan oedd hi'n glir. Achos Dad dwi wedi cael y diddordeb rili."

Ffynhonnell y llun, Dani Robertson
Disgrifiad o’r llun,

Dani yn edrych tua'r awyr dywyll

Hyd heddiw, mae'n ddiolchgar i'w theulu am symud i ogledd Cymru a oedd yn caniatáu "bywyd hollol wahanol i fywyd ym Manceinion".

"Oedd Mam yn gallu gadael fi allan, roedd hi'n dweud wrtha i, 'tyrd yn ôl pan mae'r golau stryd yn dod ymlaen', so ffordd rili dda i dyfu i fyny. Doedd o ddim yn saff i wneud hynna ym Manceinion."

Swydd ddelfrydol

Breuddwyd Dani tra'n ddisgybl yn Ysgol Gynradd Rhosneigr ac Ysgol Uwchradd Caergybi oedd bod yn astroffisegydd, ond yn ôl Dani doedd hi "ddim yn grêt mewn maths, ac yn cael gradd D mewn arholiadau ffiseg".

Gadawodd Dani ei chartref i fynd i'r brifysgol yng Nghaerdydd i astudio cerddoriaeth.

Ffynhonnell y llun, Dani Robertson
Disgrifiad o’r llun,

Adfail Cwm Ystradllyn ar noson serog. Un o gasgliad o ffotograffau Dani o'r awyr dywyll

"Wnes i gadw seryddiaeth fel hobi, tynnu lluniau o'r sêr ac ati ac ar ôl graddio ro'n i'n gweithio gyda chymunedau. Wedyn wnes i weld bod y Parc yn chwilio am Swyddog Awyr Dywyll a ges i'r swydd.

Yn ei gwaith, mae'n addysgu pobl am ar yr awyr dywyll, sut i leihau llygredd golau a "thrio newid meddwl pobl am y tywyllwch".

Dyslecsia ac ysgrifennu llyfr

Yn 2022 derbyniodd Dani wobr am ei gwaith i leihau llygredd golau gan Y Gymdeithas Awyr Dywyll Ryngwladol.

Flwyddyn yn ddiweddarach, mae ei chyfrol All Through The Night ar y silffoedd.

Er ei bod wastad wedi mwynhau ysgrifennu ac yn cadw dyddiaduron, roedd Dani sy'n byw gyda dyslecsia ac ADHD yn credu bod ysgrifennu llyfr allan o'i chyrraedd.

"Os fyddai rhywun wedi ffeindio allan bo' fi'n 'sgwennu yn fy amser fy hun, 'swn i wedi marw o embaras."

Disgrifiad o’r llun,

Dani gyda'i chyfrol

Eglura sut y daeth gwasg Harper Collins i gysylltiad â hi ar ôl un ymddangosiad ar raglen Countryfile:

"Dros Covid doedd y cwmnïau teledu methu ffilmio llawer tu mewn felly roedd yna lot o ddiddordeb yn yr awyr dywyll achos bo' nhw'n gallu 'neud y ffilmio tu allan.

"Es i ar Countryfile, ges i neges gan Harper Collins yn gofyn 'Wyt ti'n 'sgwennu?' ac yn gofyn i mi rannu beth oedd gen i.

"Wnes i ddweud ocê ac anfon gwaith draw. O'n i'n teimlo'n sâl ac yn meddwl mae'n siŵr wnawn nhw feddwl fod o'n hollol rubbish.

"Wnaethon nhw ddod nôl ata i y diwrnod wedyn a dweud bo' nhw'n rili hoffi be' o'n i wedi 'sgwennu a gofyn os alla i 'sgwennu llyfr. Nes i ddweud, 'dwi 'rioed wedi 'sgwennu llyfr o'r blaen ond wna i drio fy ngorau' a dyna sut mae wedi digwydd."

'Ar Hyd y Nos'

O enw'r gân werin boblogaidd Gymraeg, Ar Hyd y Nos, y daw teitl cyfrol Dani, All Through The Night.

Eglura: "O'n i isio galw y llyfr yn Ar Hyd y Nos ond roedd y wasg yn dweud, 'Na, ti ddim yn gallu cael enw Cymraeg ar lyfr Saesneg'."

Rhai o eiriau'r bardd Ceiriog yn y gân boblogaidd yw 'Golau arall yw tywyllwch i arddangos gwir brydferthwch'.

Ffynhonnell y llun, Dani Robertson
Disgrifiad o’r llun,

Tylluan wen yn hedfan yn yr awyr dywyll

Dani sy'n disgrifio prydferthwch yr awyr dywyll iddi hi a phwysigrwydd y tywyllwch i fywyd ar y ddaear - dwy thema canolog i'w chyfrol:

"Mae'r tywyllwch yn cael effaith ar bopeth fel pobl, bywyd gwyllt, y sêr, hanes, treftadaeth Cymraeg a threftadaeth dros y byd i gyd.

"Dwi'n dechrau bob pennod efo rwbath am bywyd fi; y profiadau dwi wedi eu cael efo'r awyr dywyll. Mae 'na bethau am fod yn ferch yn y nos a bod ar ben dy hun a sut i ddefnyddio golau i fod yn saff; dwi'n trafod mai dim y tywyllwch sy'n brifo merched.

"Mae yna bennod arall ar fywyd gwyllt a sut i mi weld ystlum oedd wedi brifo am y tro cyntaf pan oeddwn i yn Ysgol Gynradd Rhosneigr, diwrnod sydd wedi aros efo fi am byth. Mae ystlumod angen awyr dywyll i oroesi.

Ffynhonnell y llun, Dani Robertson
Disgrifiad o’r llun,

'Mae llygredd golau yn effeithio bywyd gwyllt'

"Mae llygredd golau'n cael effaith negyddol ar fywyd gwyllt; o bethau bach yn y môr, i bryfed, i famaliaid fel ystlumod, y dyfrgi a llwynogod, a hefyd ar batrymau mudo adar.

"Rydan ni'n gwybod ei fod yn bwysig i bobl fynd allan i'r haul, ond mae'n bwysig bod allan yn y tywyllwch hefyd. Mae llygredd golau yn cael effaith sylweddol ar ein lles ni; mae'n creu insomnia, diabetes, canser..."

Gobaith Dani yw newid agweddau darllenwyr y gyfrol am y tywyllwch, a'u hannog i gymryd camau i leihau eu llygredd golau. Hoffai Dani weld cyfieithiad Cymraeg o All Through The Night ar y silffoedd rhywbryd.

"Faswn i'n hoffi ei gael wedi ei gyfieithu i mewn i'r Gymraeg ond dwi'm yn siŵr sut i 'neud o a dweud y gwir, dwi angen sbio mewn iddo fo."

Awyr Dywyll Cymru

Ymysg hoff lefydd Dani i wylio'r awyr dywyll yng Nghymru mae Llynnau Mymbyr, Llynnau Cregennen ac Uwchmynydd.

I Dani, mae mwynhau'r sêr yn ffordd o gysylltu â'r gorffennol a'r dyfodol.

"Dwi'n byw rownd y gongl i Farclodiad y Gawres sydd yn safle neolithig. Mae o dros bedair mil o flynyddoedd oed; mae'r bobl oedd yn byw yno adeg hynny yn gweld yr un sêr â 'dan i'n gweld rŵan - yr awyr dywyll ydy'r unig beth sydd ddim wedi newid dros amser.

Ffynhonnell y llun, Prosiect Nos
Disgrifiad o’r llun,

Gwylio cawod sêr

"Mae'n gysylltiad gyda'n hynafiaid ni a bydd pobl yn y dyfodol yn y gallu gweld yr un peth â rydan ni'n ei weld rŵan os 'dan i'n gallu stopio llygredd golau."

Os ydych am fwynhau Awyr Dywyll Cymru, beth yw cyngor Dani?

"Os wyt ti eisiau gweld sêr, dos i rwla i ffwrdd o'r llygredd golau, mynd â mat efo chdi, rwbath cynnes i yfed, gwisgo'n gynnes, gorwadd i lawr a sbio i fyny.

"Mae Rhagfyr yn fis gwych i fwynhau'r awyr dywyll; bydd cannoedd o sêr gwib yr awr yn ystod [cawodydd meteor] y Geminids."

Hefyd o ddiddordeb: