Carcharu dyn 'hynod beryglus' am geisio lladd mam a phlentyn
- Cyhoeddwyd
RHYBUDD: Mae manylion yn yr erthygl all beri gofid.
Mae dyn wedi cael ei garcharu am oes gydag isafswm o 20 mlynedd am geisio llofruddio, yn dilyn ymosodiad ffyrnig ar ddynes a phlant yn Sir Ddinbych.
Dywedodd Ryan Wyn Jones, 27, wrth blant ei fod eisiau iddyn nhw ffilmio "eich mam yn cael ei lladd", wrth iddo ymosod arni gyda chyllell.
Fe wnaeth Jones drywanu'r ddynes dros 30 o weithiau gyda chyllell fara, cyn trywanu dau o'r tri phlentyn yn y tŷ yn ardal Corwen, Sir Ddinbych.
Clywodd Llys y Goron Yr Wyddgrug fod Jones wedi gadael y ddynes i farw, ond ei bod wedi goroesi gydag anafiadau sydd wedi newid ei bywyd.
Fe wnaeth Jones bledio'n euog i ddau gyhuddiad o geisio llofruddio'r fam ac un plentyn, un cyhuddiad o niweidio plentyn, ac un o fod ag arf llafnog yn ei feddiant.
'Trywanu drosodd a throsodd'
Dywedodd yr erlynydd Caroline Rees KC wrth y llys bod Jones wedi chwerthin drwy gydol yr ymosodiad.
Roedd yr ymosodiad ar y fam mor ddifrifol fel bod blaen y gyllell fara 20cm wedi torri yn ei phen, ac mae hi wedi cael anafiadau parhaol.
Fe gafodd ei mab 10 oed ei drywanu yn ei wddf a'i gefn, ac roedd angen llawdriniaeth arno.
Cafodd ei merch 12 oed hefyd ei hanafu yn ei chefn a'i phen gyda chyllell.
Fe wnaeth y llys osod gorchymyn i beidio datgelu manylion am y plant.
Clywodd y gwrandawiad fod yr ymosodiadau wedi digwydd yn oriau man y bore ar 5 Mai eleni, yng nghartref y dioddefwyr.
Fe aeth Jones i mewn i'r tŷ a chymryd cyllell fara o'r gegin, cyn mynd i ystafell wely'r ddynes.
"Yna fe ddechreuodd ei thrywanu drosodd a throsodd yn ei hwyneb a'i chorff, tra'i bod hi yn sgrechian arno i stopio," meddai'r erlynydd.
Fe wnaeth y sgrechiadau ddeffro ei mab, a geisiodd ymyrryd.
Dywedodd Ms Rees fod Jones wedi gweld y bachgen fel "rhwystr" a'i fod wedi bwriadu ei ladd yntau.
Fe barhaodd yr ymosodiad i mewn i drydedd ystafell wely, ble roedd dwy ferch yn cysgu.
Fe geisiodd un alw am help, ond fe gymerodd Jones ei ffôn oddi arni a'i thrywanu hithau.
Dianc i gael help
Yn y diwedd fe lwyddodd y plant i ddianc o'r tŷ i chwilio am help.
Dywedodd y bachgen wrth aelod o'r teulu: "Ewch i helpu mam - mae o'n lladd hi."
Ychwanegodd fod Jones eisiau iddyn nhw "dynnu fideo o hyn - eich mam chi'n cael ei lladd".
Llwyddodd ei fam i ffoi er gwaethaf ei hanafiadau, ac fe gafodd yr heddlu a thimau meddygol eu galw.
Cafodd fideos o'r olygfa oedd yn wynebu ymatebwyr brys ei chwarae yn y llys, oedd yn dangos y fam wedi'i gorchuddio â gwaed ar y soffa, tra bod ei mab ar lawr yn yr ystafell ymolchi.
Fe wnaeth heddlu arfog ddod o hyd i Jones yn eistedd ar fainc ger y tŷ, yn dal i afael yn y gyllell.
Anafiadau sy'n newid bywyd
Cafodd y fam ei chludo i Ysbyty Brenhinol Stoke gydag anafiadau oedd yn peryglu ei bywyd, a bu'n rhaid iddi gael dros 10 awr o lawdriniaethau.
Bu'n rhaid tynnu rhan o'i phenglog, ac mae ganddi broblemau cof parhaol.
Fe wnaeth yr ymosodiad hefyd achosi niwed i'w cheg, sy'n ei gwneud hi'n anodd iddi fwyta, yn ogystal â chreithiau gweledol ar ei hwyneb a'i chorff.
Bu'n rhaid i'w mab gael llawdriniaeth am ei anafiadau yntau ac mae dal yn ei "chael hi'n anodd ymdopi" gyda digwyddiadau'r noson.
Ychwanegwyd mewn datganiad fod hynny wedi "cymryd rhywfaint o'i blentyndod i ffwrdd".
Ddylai'r un plentyn orfod mynd drwy'r fath brofiad," meddai un aelod o'i deulu, gan ddisgrifio'r bachgen fel "arwr" oedd wedi galw am gymorth ac achub ei fam.
Yn ei datganiad dioddefwr ei hun, dywedodd y fam ei bod hi bellach yn cael trafferthion gyda'i chof, yn ogystal â'i lleferydd.
"Dwi dal yn teimlo wedi fy syfrdanu efo'r cyfan," meddai.
"Ddylai'r un teulu orfod mynd drwy hyn - dyma hunllef gwaethaf unrhyw un."
Person 'hynod beryglus'
Dywedodd cwnselydd yr amddiffyn Gordon Cole KC fod Jones wedi dangos edifeirwch sawl gwaith am yr ymosodiadau, ac wedi pledio'n euog.
"Alcohol a chyffuriau oedd y tu ôl i hyn mae'n debyg," meddai wrth y llys.
Wrth ddedfrydu Jones, dywedodd Mr Ustus Martin Griffiths fod y lluniau camera corff gafodd ei ddangos yn y llys yn "boenus iawn" i'w wylio, ac ymysg "y gwaethaf rydw i wedi eu gweld".
"Mae'n anodd cyfleu arswyd yr hyn a wnaethoch chi iddyn nhw'r noson honno," meddai'r barnwr.
"Mae'n wyrth na fu unrhyw un farw.
"Yn sicr fe wnaethoch chi bopeth allech chi i ladd y fam a'i mab ifanc, yn ogystal ag ymosod ar un ferch a bygwth un arall."
Ymosod ar blant yn 'frawychus iawn'
Ychwanegodd Mr Ustus Griffiths fod Jones yn parhau i fod yn berson "hynod beryglus ac annibynadwy", a bod difrifoldeb ei droseddau yn golygu bod yn rhaid rhoi dedfryd oes iddo.
"Rydych chi'n dreisgar. Rydych chi'n ddialgar. Does gennych chi ddim dealltwriaeth," meddai.
"Mae eich ymddygiad, nid yn unig ym mhresenoldeb plant, ond wrth eu targedu'n uniongyrchol, yn eich gosod chi ymhell y tu hwnt i gyfyngiadau arferol parch dynol."
Dywedodd y byddai'n rhaid i Jones dreulio o leiaf 20 mlynedd dan glo nes y bydd yn gallu cael ei ystyried ar gyfer cael ei ryddhau ar drwydded gweddill-oes.
Ar ddiwedd yr achos dywedodd Anouska Youds, Uwch Erlynydd y Goron: "Roedd hwn yn ymosodiad creulon, ac roedd y ddioddefwraig yn ffodus o fod wedi goroesi. Mae'r ffaith bod Jones wedi mynd ymlaen i ymosod ar blant yn frawychus iawn.
"Diolch byth, o ganlyniad i'w euogfarn a'r ddedfryd a roddwyd, nid yw bellach yn rhydd i achosi'r math hwn o niwed eto.
"Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron yn cymryd achosion o drais o ddifrif. Rydym yn benderfynol o wneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau cyfiawnder i bawb ac i ddiogelu dioddefwyr cymaint â phosibl rhag wynebu troseddau eto".