'Galar TB ar ffermydd yn enfawr,' medd llywydd NFU Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae'r misoedd diwethaf wedi bod yn hynod o anodd i Aled Jones, llywydd NFU Cymru.
Ym mis Hydref fe wnaeth tân anferth mewn sied ddifrodi 70% o silwair - sef bwyd yr anifeiliaid ar gyfer y gaeaf - ar fferm y teulu yng Nghaernarfon.
Ers hynny hefyd, mae dros 40 o wartheg wedi gorfod cael eu difa wedi profion TB cadarnhaol - y rhai cyntaf erioed ar y fferm.
"Mae wedi bod yn gyfnod anodd, wrth gwrs," meddai wrth raglen Bwrw Golwg ar Radio Cymru.
"'Dan ni dal yn ceisio datrys be' achosodd y tân - doedd o ddim yn fwriadol, rhywbeth cemegol o fewn y silwair achosodd y cyfan i fynd fyny mewn fflamau."
'Methu cysgu'r nos'
Roedd y teulu newydd dorri'r pumed cnwd o silwair ac roedd Aled ar y pryd mewn cyfarfod ar y we pan ruthrodd ei wraig ato i ddweud wrtho am ddod allan ar frys.
O fewn munudau roedd y lle yn wenfflam.
"Doeddwn i ddim yn gallu 'neud dim ac ar adegau dwi ddim wedi gallu cysgu'r nos yn dilyn y digwyddiad.
"Ond dydy be dwi wedi'i wynebu ddim byd i gymharu â'r hyn sy'n digwydd yn y newyddion - mewn llefydd fel Gaza."
Am y tro cyntaf erioed mae'r fferm ar Ffordd Pant wedi gorfod difa gwartheg wedi profion diciâu cadarnhaol ac ar hyn o bryd maen nhw'n methu gwerthu anifeiliaid.
"Dwi 'di cael blas rŵan o be' mae 600 a mwy o ffermydd eraill yn gorfod ei wynebu ar draws Cymru," ychwanegodd.
"'Dan ni wedi ei gael o am y tro cyntaf erioed. Roedd gen i syniad go lew be' oedd pobl yn mynd trwyddo cynt ond rŵan mae o wedi dod yn nes ata'i.
"Mae'r galar mae'n achosi ymhlith teuluoedd ffermio ar draws Cymru yn enfawr a ddylai neb anghofio hynny.
"Mae'n glefyd sydd wedi bod efo ni am flynyddoedd - ond dydy o ddim o dan reolaeth, mewn gwirionedd."
'Fy ffydd yn rhoi tawelwch meddwl'
Ychwanegodd bod ei ffydd Gristnogol wedi bod o gymorth mawr iddo a dyna sydd wedi'i gynnal drwy'r hyn sydd wedi digwydd.
"Edrych ar y darlun ehangach ydw i ac fe fyddai'n cofio geiriau'r Apostol Paul pan yn ysgrifennu at yr eglwys yn Rhufain wrth iddyn nhw wynebu gael eu lladd a'u taflu i ffau'r llewod.
"O'dd o'n sgwennu atyn nhw gan ddweud 'Pwy a'n gwahana oddi wrth gariad Crist - ai gorthrymder, neu ing...' ac fe alla'i ychwanegu 'neu bit silage yn mynd ar dân'.
"Ni all dim byd ein gwahanu rhag cariad Iesu - dyna'r tawelwch meddwl sydd gen i. Mae hynny yn fy nghynnal.
"Y gwirionedd ydy dwi wedi cael fy achub rhag tân uffern ac er bod rhywun yn meddwl ar y dechrau be ellid fod wedi'i wneud i osgoi hyn ac arall rhaid cofio na chafodd neb ei ladd na'i anafu."
Daw ei sylwadau wrth i nifer y tanau ar ffermydd Cymru godi 31% yn 2022.
Mae'n bwysig, medd cwmni yswiriant NFU Mutual, bod ffermwyr yn diweddaru eu polisïau yn gyson.
"Ein cyfrifoldeb ni fel pobl busnes yw sicrhau bod y manylion cywir a'r mwyaf diweddar am adeiladau a stoc gan y cwmni yswiriant," ychwanegodd Aled Jones.
"Fel diwydiant rhaid i ni gymryd hyn o ddifrif.
"Erbyn Ebrill nesaf mae'n rhaid i ni fod yn barod ar gyfer cnwd silwair y flwyddyn nesaf ac mae'r trafodaethau am y gwaith adeiladu a thrwsio yn mynd yn eu blaen.
"Ond rhaid rhoi'r cyfan sydd wedi digwydd mewn persbectif wrth i ni ystyried y trasiedïau o'n cwmpas.
"Rwy'n teimlo mor ffodus bod yr Arglwydd wedi rhoi i mi rywbeth mwy na all arian ei brynu."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Tachwedd 2023
- Cyhoeddwyd16 Rhagfyr 2022
- Cyhoeddwyd20 Mehefin 2022