Ffermwr yn 'deffro a chyfogi' wrth boeni am brofion TB
- Cyhoeddwyd
"Dwi'n deffro'n bore ac yn cyfogi" - dyna eiriau ffermwr o Rowen yn Sir Conwy wrth sôn am y pwysau arno oherwydd profion y diciâu (TB) ar ei wartheg.
Bu'n siarad â Newyddion S4C ar ôl i lo farw ar y fferm. Roedd y fuwch roddodd enedigaeth i'r llo hwnnw wedi cael ei difa oherwydd canlyniad TB positif.
Er i Carwyn Roberts ofalu amdano, roedd y llo wedi gwrthod cymryd llefrith ar ôl colli ei fam, ac fe benderfynodd y ffermwr rannu fideo ar y cyfryngau cymdeithasol er mwyn dangos beth oedd wedi digwydd.
Mae Llywodraeth Cymru'n dweud eu bod nhw'n ymwybodol iawn o effaith TB ar ffermwyr ond fod camau mawr wedi'u cymryd i ddileu'r clefyd.
Difa 25 o wartheg
Daeth TB i fferm Mr Roberts 18 mis yn ôl, ac ers hynny mae 25 o wartheg wedi eu difa. Mae'r fuches o 200 yn gorfod cael eu profi yn gyson.
Dan y canllawiau, mae pob anifail sy'n cael canyniad prawf TB amhendant yn gorfod gadael y fferm, yn ogystal â'r rhai sy'n profi'n bositif.
Mae Mr Roberts yn dweud nad ydy prawf y lladd-dy'n dangos bod ei wartheg yn dioddef o'r diciâu.
"Mae'r fam 'di mynd i gael ei lladd," meddai. "Mae hi 'di dod yn ôl yn fath o glir fel maen nhw gyd yn fan'ma.
"O'n i 'di bod yn trio rhoi llaeth i'r llo bore a nos, ond doedd o'm yn dod ac mae'r llo wedi pasio erbyn hyn.
"So dyna pam nes i roi'r fideo i fyny, achos o'n i bach yn flin am y peth.
"Jyst teimlo di'r test ddim digon da. Erbyn hyn 'dan ni 'di gyrru 25 o bennau dros yr 18 mis diwetha', ac maen nhw gyd 'di dod yn ôl yn glir so dwi'm yn teimlo bod genna i y broblem yma."
'Ddim yr un boi ag yr oeddwn i'
Nid Mr Roberts ydy'r ffermwr cyntaf i rannu ei bryderon am y profion TB ar y cyfryngau cymdeithasol, ond mae'n deud ei fod wedi penderfynu rhannu ei stori er mwyn i bobol weld sut mae'r sefyllfa "go iawn".
Dywedodd fod cysgod TB wedi bod yn straen arno fo a'i deulu, a'i fod yn aml yn deffro efo'i stumog yn troi.
"Dwi'n deffro'n bore a dwi'n cyfogi â stress," meddai.
"Mae'n dod yn waeth pan 'dan ni'n testio gwartheg am TB. Pan mae'r test yn digwydd, dwi'n codi'n bore a dwi'n cyfogi am hanner awr."
Ychwanegodd fod yr holl boeni am arian ac am y profion yn cael effaith ar ei iechyd meddwl.
"Tasa chi'n gofyn i'r wraig os ydw i yr un boi ag yr oeddwn i bum mlynedd yn ôl, tydw i ddim. Tydw i ddim o gwbl," meddai.
"Mae yna lot o boeni yn mynd ymlaen yma. Mae hi'n job."
Mae Mr Roberts yn teimlo fod y system yn gweithio "yn erbyn y ffermwyr" ac nad ydy'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau yn deall yr effaith mae profion TB - sy'n arwain at golledion bywyd ac arian - yn ei gael ar ffermwyr.
Mae Llywodraeth Cymru'n dweud eu bod nhw'n ymwybodol iawn o effaith TB ar ffermwyr, ond bod camau mawr wedi'u cymryd i ddileu'r clefyd.
Ychwanegodd llefarydd fod y prawf croen wedi profi'n ddull dibynadwy o sgrinio buchesi, ac mae nifer yr achosion newydd o TB wedi bron iawn wedi haneru dros gyfnod o 13 mlynedd.
"Er na chawn drafod achosion unigol, rydyn ni'n ymwybodol iawn o'r effaith ddifrifol y gall TB ei chael ar ffermwyr sy'n gorfod delio â'r clefyd yn eu buchesi," meddai.
"Ers dechrau'r Rhaglen, mae camau breision wedi'u cymryd i ddileu'r clefyd, gyda gostyngiad tymor hir yn nifer yr achosion newydd a'r buchesi sydd â'r clefyd.
"Mae ffermwyr yn ganolog i'r hyn rydyn ni'n ceisio'i wneud, ac rydyn ni wrth gwrs yn gwrando arnyn nhw.
"Mae'n amlwg na allwn ni fynd i'r afael â'r clefyd ar ein pen ein hunain ac mae gennym oll ran i'w chwarae."
Dywed y llywodraeth fod achosion newydd o TB wedi gostwng o 1,185 yn 2009 i 604 yn y 12 mis hyd at Fedi 2022 - gostyngiad o 49%.
Mae nifer yr anifeiliaid sy'n cael eu difa i reoli TB wedi gostwng o 11,655 yn 2009 i 9,507 yn y 12 mis hyd at Fedi 2022 - gostyngiad o 18.4%.
Maen nhw'n dweud hefyd fod llo sy'n dilyn buwch sugno fel arfer yn cael ei ddifa, gyda iawndal fel Cysylltiad Uniongyrchol os oes gan y fam friwiau amlwg, gan ei bod yn debygol y bydd wedi'i heintio.
Os nad oes briwiau amlwg, nid yw'n arfer cymryd y llo oddi ar y fuwch bob tro, ond maen nhw'n deall y gall hynny achosi problem gan fod yn rhaid diddyfnu a magu'r llo heb ei fam.
Gall hynny fod yn anodd mewn buches sugno, ond mae'n dibynnu ar oed y llo.
Galw am fynd i'r afael â moch daear
Trwy gynnal profion TB yn rheolaidd, mae modd gweld pa wartheg sydd wedi'u heintio a gellir eu cymryd o'r fuches cyn iddynt fagu'r haint clinigol.
Gallai peidio â gwneud hynny arwain at ledaenu'r haint lawer yn ehangach trwy'r fuches genedlaethol.
Er yn bwnc dadleuol, mae Carwyn Roberts - fel y mae nifer o ffermwyr yn ei wneud - yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r moch daear sydd hefyd yn gallu lledu'r clefyd, a nid difa gwartheg yn unig.
Mae'r fferm dan gyfyngiadau TB ers Chwefror 2021, a dydy Mr Roberts ddim yn disgwyl dod allan o'r cyfyngiadau tan o leia' fis Mai'r flwyddyn nesaf.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd14 Gorffennaf 2021
- Cyhoeddwyd20 Ebrill 2021