Diciâu: AS yn ymddiheuro am sylwadau 'ysgytwol'
- Cyhoeddwyd
Mae gwleidydd Llafur wedi ymddiheuro am awgrymu y dylai ffermwyr sy'n dioddef o heintiau diciâu buchol cyson "ddod o hyd i fusnes arall".
Roedd sylwadau Joyce Watson wedi cynhyrfu undeb amaethwyr NFU Cymru a alwodd ei sylwadau yn "ysgytwol" ac "ansensitif".
Yn y Senedd dywedodd Ms Watson, y mae ei rhanbarth yn wledig i raddau helaeth, ei bod yn ddrwg ganddi am unrhyw dramgwydd a achoswyd.
"Roeddwn i'n drwsgl a doeddwn i ddim yn mynegi fy hun yn ofnadwy o dda," meddai.
Roedd Plaid Cymru wedi galw arni i ymddiheuro'r wythnos ddiwethaf, tra bod y Ceidwadwyr Cymreig wedi dweud ei bod wedi dangos "diffyg empathi llwyr".
Yr wythnos ddiwethaf, roedd Joyce Watson, Aelod o'r Senedd dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru, yn siarad ar ôl datganiad gan y gweinidog materion gwledig.
Roedd y Gweinidog Lesley Griffiths wedi bod yn siarad am strategaeth bum mlynedd gyda'r nod o wneud Cymru'n rhydd o'r clefyd diciâu mewn gwartheg erbyn 2041.
Gofynnodd Ms Watson iddi: "Ydych chi wedi edrych ar unrhyw ffermydd sydd â statws diciâu parhaol, ac a ydych chi wedi ystyried y cwestiwn a ddylai'r ffermydd penodol hynny fod yn ffermydd llaeth o gwbl?
"Oherwydd os yw'n wir eu bod nhw mewn statws haint diciâu parhaol, does bosib bod angen iddyn nhw ddod o hyd i fusnes arall?"
Ni atebodd Ms Griffiths y cwestiwn.
Mae rhanbarth Ms Watson - Canolbarth a Gorllewin Cymru - yn cwmpasu llawer o gefn gwlad Cymru yn ardaloedd Powys, Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Cheredigion.
Ddydd Mawrth, dywedodd Ms Watson wrth y Senedd: "Yn yr achos hwn roeddwn i'n drwsgl a wnes i ddim mynegi fy hun yn ofnadwy o dda. Ac mae'n ddrwg gen i am unrhyw dramgwydd a achoswyd.
"Dylwn i fod wedi bod yn gliriach fy mod yn sôn am ffermydd sydd wedi cael eu heffeithio'n barhaus gan y diciâu a phwysau parhaus y system bresennol."
Ychwanegodd Ms Watson: "Yn yr achosion hynny dwi'n meddwl y dylai fod sgwrs am sut y gellir datrys y sefyllfa honno, neu o leiaf ei gwella, a dylai arallgyfeirio fod yn rhan o hynny."
Dywedodd Ms Griffiths, oedd yn cymryd cwestiynau yn ei rôl fel Trefnydd y llywodraeth yn y Senedd: "Rwy'n siŵr y bydd eich geiriau yn cael eu croesawu gan y sector amaethyddol."
'Effaith emosiynol a meddyliol'
Yn ystod Cwestiynau i'r Prif Weinidog, gofynnodd Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, ar y prif weinidog a ddylai Joyce Watson ailystyried y sylwadau.
Fe wnaeth Mr Drakeford gydnabod yr "effaith emosiynol a meddyliol y mae ffermwyr yn ei brofi".
Dywedodd hefyd fod Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi miliynau mewn "rhwyd diogelwch" i gynorthwyo ffermwyr.
Ychwanegodd, "rwyf wedi darllen ers hynny bod Joyce Watson wedi egluro pe bai wedi cael cyfle i fynegi ei barn yn llawnach, nid oedd hi wedi bwriadu awgrymu y byddai pobl yn cael eu gorfodi oddi ar y tir."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Tachwedd 2023
- Cyhoeddwyd15 Tachwedd 2023
- Cyhoeddwyd16 Awst 2023
- Cyhoeddwyd29 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd15 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd16 Rhagfyr 2022
- Cyhoeddwyd14 Gorffennaf 2021