Trehafod: Teyrnged teulu i 'dad ymroddgar' fu farw yn 35 oed

  • Cyhoeddwyd
Matthew TheophilusFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd teulu Matthew Theophilus ei fod yn "dad ymroddgar" i'w ferch

Mae teulu dyn o ardal Caerffili a fu farw ar ôl gwrthdrawiad wedi rhoi teyrnged iddo.

Bu farw Matthew Theophilus, 35, yn yr ysbyty yn dilyn gwrthdrawiad ar yr A4058 yn Nhrehafod, Rhondda Cynon Taf tua 22:00 nos Sul, 3 Rhagfyr.

Dywedodd ei deulu fod "marwolaeth sydyn Matthew mewn amgylchiadau mor ddinistriol yn gadael gwacter na fydd byth yn cael ei lenwi".

"Roedd yn dad ymroddgar a oedd yn llawn bywyd a chariad at ei deulu," meddai'r datganiad.

"Bydd ein hatgofion o Matthew yn aros gyda ni am byth."

Mae'r teulu wedi diolch i bawb sydd wedi "anfon negeseuon o gefnogaeth" ac yn gofyn am "amser i alaru gyda'n gilydd fel teulu".

Mae Heddlu De Cymru yn parhau i ymchwilio i'r gwrthdrawiad, a oedd yn ymwneud â thri cherbyd - BMW gwyn, Vauxhall Zafira glas a Hyundai gwyn.

Maen nhw'n apelio am unrhyw dystion i gysylltu gyda nhw.

Pynciau cysylltiedig