Pobl ifanc wedi ymosod ar groto Nadoligaidd yn Llanrug

  • Cyhoeddwyd
Roedd y groto symudol yn gyrru rownd Gwynedd nos IauFfynhonnell y llun, Caernarfon Round Table
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r groto symudol yn mynd ar daith o amgylch Gwynedd bob blwyddyn

Mae criw o bobl ifanc wedi ymosod ar groto Nadoligaidd symudol yn ystod ei ymweliad â phentref Llanrug yng Ngwynedd.

Mae Bwrdd Crwn Caernarfon, sy'n gyfrifol am fynd a'r groto ar daith o amgylch y sir bob blwyddyn, wedi rhybuddio efallai y bydd rhaid canslo ymweliadau â Llanrug yn y dyfodol os yw hyn yn digwydd eto.

Fe gafodd y trelar a'r Land Rover eu targedu gan griw o bobl ifanc, a oedd hefyd wedi eu gweld yn taflu "peli rygbi a cherrig" at gerbydau eraill nos Iau.

Chafodd neb eu hanafu, ac mae Heddlu Gogledd Cymru wedi derbyn cais am ymateb.

Ffynhonnell y llun, Bwrdd Crwn Caernarfon
Disgrifiad o’r llun,

Roedd adroddiadau bod pobl ifanc wedi eu gweld yn taflu peli rygbi a cherrig at gerbydau nos Iau

Dywedodd Terry Jones, Cadeirydd Bwrdd Crwn Caernarfon fod y criw wedi ymweld â Llanberis dydd Iau, a'u bod yn ymweld â Llanrug ar eu ffordd yn ôl i Gaernarfon pan wnaeth "y bobl ifanc ddechrau taflu pethau at y Land Rover a'r trelar".

"Fe gafon nhw eu gweld yn taflu peli rygbi a cherrig ar gerbydau eraill. Lwcus nad oedd neb ar y groto symudol, felly gafodd neb eu brifo," meddai.

"Nos yfory rydym ym mhentref Llanrug ei hun felly mae heddwas wedi dweud y byddai'n mynd lawr yno i gadw trefn ar yr ardal tra ein bod ni yna, i wneud yn siŵr nad yw'r plant yn creu unrhyw helynt."

"Rydym yn gobeithio na fyddwn ni'n cael unrhyw drwbl."

Ffynhonnell y llun, Bwrdd Crwn Caernarfon

Ychwanegodd Mr Jones mai diogelwch y teuluoedd sy'n mynd i weld Sion Corn yw ei bryder mwyaf.

"Rydym yn gwneud hyn yn flynyddol, glaw neu hindda, cyn belled a bod y teuluoedd yn aros amdanom ni ar y stryd."

"Pan rydym yn gweld y teuluoedd yn gwenu ac yn rhyfeddu bod Sion Corn yn dod i'w gweld, mae'r cyfan werth o."

Ond fe ddywedodd y gall fod goblygiadau os yw hyn yn digwydd eto.

Pynciau cysylltiedig