Dyn fu bron â marw yn diolch i'r RNLI am ei achub

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Fideo o'r foment y cafodd Mike Hall ei achub gan griw yr RNLI a'r cyhoedd

Mae pysgotwr fu bron â marw ar ôl cael ei daro'n anymwybodol a'i lusgo i'r môr wedi diolch i'r rheiny fu'n gyfrifol am ei achub mewn aduniad emosiynol.

Cafodd Mike Hall ei ddal gan y llanw tra'n pysgota yn aber Afon Ogwr ger Porthcawl yn Hydref 2019, ac fe gafodd ei daro'n anymwybodol tra'n cael ei dynnu i'r môr.

Llwyddodd aelodau'r cyhoedd i'w dynnu o'r dŵr, cyn i griw bad achub yr RNLI gyrraedd a rhoi triniaeth iddo.

Fe gafodd ei roi mewn coma am ddyddiau wedi'r digwyddiad, ond mae bellach wedi gwneud gwellhad llawn.

Dros bedair blynedd yn ddiweddarach, bu'n cwrdd â rhai o'r criw bad achub ac aelodau'r cyhoedd fu'n gyfrifol am ei achub.

Disgrifiad o’r llun,

Mike Hall (canol) yn cwrdd â rhai o'r criw bad achub fu'n gyfrifol am ei achub yn Hydref 2019

Dywedodd Mr Hall ei fod yn cofio sylweddoli fod y llanw yn codi'n sydyn, a chyn iddo lwyddo i'w gwneud hi yn ôl i'r lan, roedd yn cael ei dynnu i'r môr.

"Ar y pwynt yna 'dw i'n cofio gweld menyw yn y maes parcio, a chwifio fy mreichiau arni hi er mwyn ceisio dal ei sylw hi," meddai.

"Ar ôl hynny dyma'r tonnau yn dod drosta i, a dyna'r peth olaf 'dw i'n cofio."

Dywedodd nad yw'n cofio dim o'r digwyddiad wedi hynny, nes iddo ddeffro yn yr ysbyty bedwar diwrnod yn ddiweddarach.

Cafodd Mr Hall ei ruthro i Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont wedi iddo gael ei achub.

'Diolch ddim yn ddigon'

Dywedodd ei bod wedi cymryd cryn dipyn o amser iddo ddod dros yr hyn ddigwyddodd.

"Ro'n i ffwrdd o'r gwaith am hirach nag o'n i'n disgwyl, ac yn cael flashbacks am gyfnod hir - 'dw i dal yn cael hynny'n achlysurol," meddai.

Dywedodd ei bod yn "grêt" cyfarfod rhai o'r criw a fu'n gyfrifol am ei achub.

"Dydi diolch ddim yn ddigon," meddai'r tad i ddau o Sir Gaerloyw.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Mike Hall ei bod wedi cymryd cryn dipyn o amser iddo ddod dros yr hyn ddigwyddodd

Roedd gwirfoddolwyr yr RNLI yn ofni'r gwaethaf oherwydd bod Mr Hall wedi treulio cymaint o amser dan ddŵr.

Ond ar ôl 10 diwrnod yn yr ysbyty a deufis i ffwrdd o'i waith, mae bellach wedi gwneud gwellhad llawn.

'Anhygoel'

Un o'r rheiny fu'n cwrdd ag ef oedd Angharad Masson - nyrs yn Ysbyty Tywysoges Cymru ac un o wirfoddolwyr yr RNLI - roddodd CPR iddo ar y traeth y diwrnod hwnnw er mwyn achub ei fywyd.

"I ddechrau ro'n i'n meddwl 'dydw i ddim yn gwybod be' dy'n ni'n mynd i allu gwneud fan hyn'," meddai yn cofio'n ôl.

"Fe wnaethon ni'r gorau gyda'r offer oedd gennym ni - tanc ocsigen - a'n hyfforddiant CPR ni, felly oll allwn ni wneud oedd ein gorau.

"Diolch byth, fe ddaeth trwyddi."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Angharad Masson ei bod yn galonogol gweld yr effaith mae eu hyfforddiant yn gallu ei gael

Dywedodd Ms Masson, 28, fod gweld Mr Hall eto yn "anhygoel".

"Mae gwneud y cylch yn gyflawn a'i weld e gyda'i wraig heddiw yn rhywbeth fydd yn aros gyda fi am amser hir iawn, iawn," meddai.

Ychwanegodd ei bod yn galonogol gweld yr effaith mae eu hyfforddiant yn gallu ei gael.

'Dydw i ddim eisiau i'r dyn yma farw'

Cyn i'r criw bad achub gyrraedd, aelodau'r cyhoedd oedd yn gyfrifol am dynnu Mr Hall o'r dŵr, gan achub ei fywyd.

Roedd Ailsa, 28, yn bwyta brechdan yn ei char pan welodd Mr Hall yn disgyn a chael ei lusgo i'r môr.

"Roedd ei freichiau yn chwifio ac roedd yn amlwg yn poeni yn fwy ac yn fwy," meddai.

"Roedd 'na un pwynt lle na lwyddodd i godi ar ei draed eto, ac fe aeth yn llonydd iawn.

"Mae 'na rywbeth yn eich meddwl chi sy'n dechrau gweithio, a wedyn chi ddim yn meddwl, chi jest yn gwneud.

"Ro'n i jest yn meddwl 'dydw i ddim eisiau i'r dyn yma farw heddiw'."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Ailsa ei bod yn "wych" ei weld yn gwneud mor dda bellach

Fe adawodd Ailsa ei char a rhedeg tuag at Mr Hall, oedd yn cael ei dynnu ymhellach i'r dŵr.

Er ei bod hi'n nofiwr hyderus, dywedodd ei bod wedi amau ei hun am ychydig.

"Roedd y tonnau'n uchel, ac ar un pwynt fe nes i feddwl 'ydw i am fod yn iawn yn hwn?'" meddai.

Fe lwyddodd i gyrraedd Mr Hall, ac i ddechrau roedd hi'n ofni ei fod wedi marw.

"Rwy'n cofio edrych arno a meddwl 'mae hi'n rhy hwyr, mae e wedi marw'."

Ond dywedodd ei bod yn "wych" ei weld yn gwneud mor dda bellach.

"Mae ei weld e'n gwenu a chwerthin, a chyfarfod ei deulu, wedi bod yn hyfryd," meddai Ailsa.