Galw ar weinidog i ystyried ymddiswyddo dros ffrae URC

  • Cyhoeddwyd
Dawn Bowden
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Dawn Bowden ar raglen Politics Wales ei bod wedi gofyn i AS Gŵyr am fwy o fanylion ond ei bod "byth wedi cael hynny"

Dylai gweinidog Llafur ystyried ymddiswyddo dros y ffordd y deliodd gyda honiadau o gasineb tuag at fenywod o fewn Undeb Rygbi Cymru, yn ôl Aelod Seneddol o'r un blaid.

Mae Tonia Antoniazzi wedi cyhuddo Dawn Bowden o "ymdrech sinigaidd i ailysgrifennu hanes" mewn cyfweliad gyda'r BBC ble wnaeth y gweinidog amddiffyn ei hun.

Mae Ms Antoniazzi, AS Gŵyr, hefyd yn cyhuddo Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth, o wneud "nifer o honiadau anghywir" am y cyfathrebu rhwng y ddwy am honiadau rywiaeth a mysogynistiaeth o fewn yr undeb.

Dywedodd Ms Bowden ar raglen Politics Wales ei bod wedi gofyn i AS Gŵyr am fwy o fanylion ond ei bod "byth wedi cael hynny".

Mae Llywodraeth Cymru a Dawn Bowden wedi cael cais am ymateb i sylwadau Ms Antoniazzi.

Mae Ms Antoniazzi yn dweud ei bod wedi rhoi manylion cyswllt menywod a gafodd eu heffeithio i'r gweinidog, a hynny fisoedd cyn i raglen ddogfen BBC Cymru ar y mater gael ei darlledu, ac na wnaeth Ms Bowden gysylltu â nhw.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Tonia Antoniazzi yn dweud y dylai Dawn Bowden "ystyried ei safle yn ddifrifol"

Fe wnaeth Ms Antoniazzi gyhuddo'r gweinidog o "ymdrech sinigaidd i geisio newid yr hanes er mwyn cuddio diffyg gweithredu".

Gofynnodd i Ms Bowden "dynnu ei sylwadau diweddar amdana i yn ôl, ymddiheuro i'r menywod y gwnaeth hi eu hanwybyddu ac ystyried ei safle yn ddifrifol".

Dywedodd AS Gŵyr ei bod wedi cysylltu â Ms Bowden yn gynnar yn 2022 a'i bod hi bryd hynny "wedi mynegi ei bod hi'n hapus siarad gydag unrhyw un o'r menywod a gafodd eu heffeithio".

Ychwanegodd ei bod wedi rhannu manylion cyswllt y menywod, "a'i gwneud hi'n ymwybodol o'r effaith emosiynol roedd hyn yn ei gael".

"Dydw i ddim yn deall pam fod Dawn wedi dewis peidio cysylltu â'r menywod," meddai.#

Dim digon i weithredu

Ni wnaeth Ms Bowden gwrdd â phenaethiaid URC i drafod materion tan ar ôl i raglen ddogfen BBC Wales Investigates, a amlygodd "ddiwylliant gwenwynig" o rywiaeth a homoffobia, gael ei darlledu ym mis Ionawr 2023.

Dywedodd wrth raglen BBC Politics Wales nad oedd yn bosib iddi ymyrryd yn gynt oherwydd ei bod angen "manylion eu cwynion" i roi "sicrwydd iddi fod yr hyn oedd yn cael ei ddweud yn wir".

Roedd Ms Antoniazzi wedi codi pryderon am faterion o fewn URC y mis Mawrth blaenorol yn Nhŷ'r Cyffredin hefyd.

Ond dywedodd Ms Bowden nad oedd yr hyn yr oedd Ms Antoniazzi wedi'i ddweud yn Nhŷ'r Cyffredin na'r pryderon a godwyd ganddi mewn cyfarfodydd ac mewn llythyrau swyddogol yn ddigon iddi weithredu.