Y Bencampwriaeth: Stoke 1-1 Abertawe
- Cyhoeddwyd
Cafodd Abertawe gêm gyfartal yn Stoke nos Fawrth, wrth i ddau dîm heb reolwyr herio'i gilydd.
Fe wnaeth Yr Elyrch ddiswyddo Michael Duff yr wythnos ddiwethaf, tra bod Stoke wedi cael gwared ar Alex Neil ddydd Sul.
Doedd Stoke ddim wedi sgorio gôl gartref am dair gêm yn olynol cyn nos Fawrth, ond fe ddaeth hynny i ben gydag 20 munud yn weddill.
Cafodd y tîm cartref gic o'r smotyn yn dilyn trosedd gan Harry Darling ar Ryan Mmaee yn y cwrt cosbi, a llwyddodd Daniel Johnson i rwydo o 12 llath.
Ond fe wnaeth Darling yn iawn am ei gamgymeriad yn y munudau olaf wrth iddo benio i'r rhwyd o gic gornel i achub pwynt i'r Elyrch.
Mae'r canlyniad yn golygu fod Abertawe yn aros yn 16eg yn y Bencampwriaeth.