Gwrthod cais dadleuol i ymestyn Chwarel Dinbych
- Cyhoeddwyd
Mae cais dadleuol i ehangu chwarel galchfaen ar gyrion Dinbych a pharhau i gloddio yno am chwarter canrif arall wedi cael ei wrthod gan gynghorwyr.
Cafodd cais swyddogol gan gwmni Breedon Southern Ltd ei gyflwyno i Gyngor Sir Ddinbych fis Mehefin 2022.
Mae'r caniatâd cynllunio i fod i ddod i ben, a'r tir i gael ei adfer i'w gynefin naturiol erbyn 2028.
Ond fe gyflwynodd y cwmni gais o'r newydd i ehangu'r chwarel, sydd wedi derbyn cryn wrthwynebiad yn lleol.
Mae'r chwarel yn cynhyrchu cerrig mân a chalch amaethyddol.
Er mwyn datblygu'r gwaith mwyngloddio, roedd y datblygwyr eisiau ymestyn ffin y chwarel dros ddau gae cyfagos, gan ailgyfeirio llwybr cyhoeddus sydd ar hyn o bryd mynd drwy goedwig.
Roedd y cynnig yn atgyfnerthu'r caniatâd cynllunio presennol yn Chwarel Dinbych, ac yn gofyn am estyn ochr orllewinol y chwarel.
Roedd y cais hefyd yn cynnwys mewnforio gwastraff anadweithiol er mwyn hwyluso adfer y tir at ddibenion cadwraeth.
Yng nghyfarfod pwyllgor cynllunio'r cyngor ddydd Mercher, dywedodd cynrychiolydd y cwmni y byddai 'na fanteision economaidd i'r ardal.
Ond wedi bron i ddwy awr o drafod, cafodd y cais ei wrthod.
Dywedodd cynghorwyr bod tir yr estyniad posib y tu hwnt i ffiniau'r Cynllun Datblygu Unedol, ac y byddai effaith niweidiol ar goetir â statws Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.
Roedden nhw hefyd yn ofni y byddai yna effaith niweidiol yn amgylcheddol i bobl sy'n byw ger y chwarel.
Roedd ymgyrchwyr eisoes wedi codi pryderon ynghylch cynnydd posib o ran sŵn ffrwydradau yn y chwarel, gostyngiad yn ansawdd aer ac agosrwydd y chwarel at gartrefi pobl.
Pryder arall oedd y byddai'r datblygiad, petai'r cynlluniau wedi cael sêl bendith, yn cyfyngu'r mynediad i lwybr cerdded poblogaidd ac yn dinistrio bywyd gwyllt.
Fe dderbyniodd y cyngor dros 250 o lythyrau o wrthwynebiad.
Mae cannoedd o drigolion Dinbych yn cefnogi'r grŵp gweithredu lleol Save our Green Spaces, ac roedd nifer wedi dod i bencadlys y cyngor yn Rhuthun er mwyn dangos eu gwrthwynebiad i'r cynlluniau.
Dywedodd llefarydd y grŵp, Mair Jones, eu bod "wrth ein boddau fel cymuned" gyda'r penderfyniad.
Roedd cynghorwyr wedi cael gwybod cyn y cyfarfod bod Llywodraeth Cymru'n ystyried galw'r cais i mewn ac y byddai unrhyw benderfyniad gan aelodau'r pwyllgor ddydd Mercher yn cael ei ohirio.
Bydd y cyngor nawr yn hysbysu'r llywodraeth ynghylch penderfyniad y pwyllgor.
Dywedodd llefarydd: "Mater i Lywodraeth Cymru wedyn fydd hysbysu'r Cyngor a ydynt yn dal i ddymuno i'r cais gael ei alw i mewn neu a ydynt bellach yn fodlon i Gyngor Sir Ddinbych gyhoeddi'r gwrthodiad."
Mae gan Breedon Southern Ltd hawl i apelio. Nid oedd y cwmni am wneud sylw am y penderfyniad.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Awst 2022
- Cyhoeddwyd1 Hydref 2021