Cadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri i adael

  • Cyhoeddwyd
Annwen Hughes
Disgrifiad o’r llun,

Mae Annwen Hughes wedi penderfynu camu'n ôl oherwydd 'gofynion gwaith ac ymroddiadau personol'

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn chwilio am gadeirydd newydd wedi i'r ddynes gyntaf i gael ei phenodi i'r rôl benderfynu gadael.

Dywedodd llefarydd bod y Cynghorydd Annwen Hughes wedi rhoi gwybod ei bod am roi'r gorau i'r rôl ddiwedd Tachwedd, gan ddweud bod hynny yn sgil "gofynion gwaith ac ymroddiadau personol".

Mae hi hefyd yn gynghorydd sir Plaid Cymru, gan gynrychioli ward Harlech a Llanbedr, ac yn Glerc Cyngor Cymuned Harlech.

Daeth i'r amlwg ym mis Gorffennaf fod y cyngor cymuned wedi colli £9,000 drwy dwyll APP (authorised push payment).

Ffynhonnell y llun, Google Streetview
Disgrifiad o’r llun,

Ymddiheurodd Cyngor Cymuned Harlech ym mis Medi am golli arian drwy dwyll APP

Fe lwyddodd rywrai i gael mynediad heb awdurdod i gyfeiriad e-bost y clerc, ac fe gafodd ddau daliad o £4,500 yr un ei drosglwyddo yn Rhagfyr 2022 heb awdurdodiad priodol gan y cyngor.

Fe rybuddiodd Swyddfa Archwilio Cymru gynghorau cymuned ar draws Cymru i ddilyn prosesau seibrddiogelwch tynnach, gan fynegi pryder pa mor "rhwydd" oedd hi i'r cyngor golli pres cyhoeddus i sgam ariannol.

Dywedodd y Cynghorydd Hughes mewn ymateb i adroddiad yr archwilwyr ym mis Tachwedd: "Rydyn ni i gyd wedi dysgu gwersi - yn enwedig fi - ac wedi symud ymlaen".

Ychwanegodd bod y cyngor "wedi gwneud newidiadau i'r ffordd rydyn ni'n gweithredu ar faterion ariannol".

Disgrifiad o’r llun,

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri'n gweithio i warchod harddwch naturiol yr ardal, gan gynnwys Yr Wyddfa

Dywedodd llefarydd ar ran Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri bod y Cynghorydd Hughes wedi rhoi gwybod iddyn nhw am ei phenderfyniad ar 20 Tachwedd.

"Fe gyfeiriodd at gynnydd o ran gofynion gwaith ac ymroddiadau personol ac nid oedd yn teimlo y gallai roi'r amser a'r ymroddiad mwyach sydd eu hangen ar gyfer rôl Cadeirydd yr Awdurdod," ychwanegodd.

Roedd yn fwriad i ethol ei holynydd yn ystod cyfarfod mis Rhagfyr yr awdurdod, ond bu'n rhaid gohirio'r broses tan y flwyddyn newydd oherwydd "trafferthion technegol".

Dywedodd y llefarydd: "Yn ysbryd tegwch a gyda pharch i'r ymgeiswyr, fe bleidleisiodd yr aelodau i ohirio'r etholiad tan gyfarfod nesaf yr Awdurdod ym mis Chwefror."