Rob Howley yn dychwelyd i dîm hyfforddi Warren Gatland

  • Cyhoeddwyd
Jon Davies a Rob HowleyFfynhonnell y llun, Dan Mullan
Disgrifiad o’r llun,

Yn 2019 fe gafodd Howley (dde) ei wahardd o'r gêm am 18 mis - naw ohonynt wedi eu gohirio

Mae Rob Howley wedi dychwelyd i dîm hyfforddi Cymru ar gyfer pencampwriaeth y Chwe Gwlad y flwyddyn nesaf wedi pedair blynedd i ffwrdd.

Mae cyn-fewnwr Cymru, 53, a gafodd ei wahardd o'r gêm yn 2019 am dorri rheolau betio, wedi ei benodi'n hyfforddwr technegol.

Bydd Howley hefyd yn gyfrifol am gydlynu'r llwybr rhwng y timau ieuenctid a'r tîm cyntaf.

Dywedodd ei fod yn teimlo "mai dyma'r amser iawn i ddychwelyd" a'i fod yn "edrych 'mlaen i fod yn rhan o'r tîm hyfforddi unwaith eto".

Yn y cyfamser mae cyn-flaenasgellwr Cymru, Jonathan Thomas wedi gadael ei rôl fel hyfforddwr, tra bod Richard Whiffin wedi ei benodi yn brif hyfforddwr y tîm dan 20 oed.

Dywedodd Thomas, oedd yn canolbwyntio yn bennaf ar ardal y dacl, ei fod yn gadael "er mwyn mynd ar drywydd cyfleoedd newydd ac amrywiol o fewn y byd rygbi".

Bydd Alex King, Mike Forshaw, Jonathan Humphreys a Neil Jenkins yn parhau fel aelodau o dîm hyfforddi Warren Gatland.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans agency
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Howley ei benodi'n hyfforddwr cynorthwyol i dîm cenedlaethol Canada yn 2020

Dyma'r cam diweddaraf i Howley wrth iddo geisio adfer ei yrfa hyfforddi wedi ei waharddiad yn 2019.

Roedd yn aelod allweddol o dîm Warren Gatland yn ystod ei gyfnod cyntaf fel prif hyfforddwr - cyfnod pan enillodd Cymru dair camp lawn yn ogystal â phedwaredd Pencampwriaeth Chwe Gwlad yn ystod ei gyfnod byr fel rheolwr dros dro.

Ond ar drothwy Cwpan Rygbi'r Byd yn Japan cafodd ei anfon adref yn dilyn amheuon ei fod wedi bod yn betio ar gemau rygbi.

O ganlyniad, fe gafodd ei wahardd o'r gêm am 18 mis - naw o'r rheiny wedi eu gohirio.

'Cyfnod heriol'

Fe ddychwelodd i'r gamp yn 2020 pan gafodd ei benodi'n hyfforddwr cynorthwyol i dîm cenedlaethol Canada, ac fe dreuliodd gyfnod hefyd fel ymgynghorydd gyda chlwb Toronto Arrows.

Dywedodd Howley: "Mae gen i ail gyfle i wneud swydd sydd mor bwysig i mi ac rwy'n ddiolchgar i bawb yn rygbi Cymru am osod eu ffydd ynof fi.

"'Rwy'n bwriadu ad-dalu'r ffydd hwnnw hyd eithaf fy ngallu.

"Rwyf wedi bod trwy gyfnod hynod heriol yn fy mywyd, ond mae siarad yn agored am fy sefyllfa wedi fy ngalluogi i symud ymlaen."

Bydd ymgyrch Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn dechrau gyda gêm gartref yn erbyn Yr Alban ar 3 Chwefror.