Cyn-swyddog yn 'ofni' gwrthod siarad â charcharor

  • Cyhoeddwyd
Ruth Shmylo yn cyrraedd y llysFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ruth Shmylo yn gwadu cyhuddiad o gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus

Roedd cyn-swyddog carchar sydd wedi ei chyhuddo o gael perthynas amhriodol gyda charcharor "ag ofn mawr" beth fyddai'n ei wneud petai hi ddim yn siarad ag e, mae llys wedi clywed.

Dywedodd Ruth Shmylo, 26, wrth yr heddlu bod y carcharor, Harri Pullen, wedi dechrau ei bygwth gan ddweud "does neb yn fy ngwrthod i".

Roedd hi'n gweithio ar yr adain ble roedd Pullen yn cael ei gadw yng Ngharchar y Parc, Pen-y-bont ar Ogwr, nes iddi gael ei diswyddo ar ddiwedd ei chyfnod prawf ym mis Ebrill 2021.

Clywodd y rheithgor yn Llys y Goron Caerdydd hefyd recordiadau o alwadau ffôn rhwng y ddau wedi iddo gael ei symud i garchar ym Manceinion, pan ddywedodd ei fod yn ei cholli ac yn ei galw'n "dywysoges".

Mae Miss Shmylo yn gwadu cyhuddiad o gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus.

Yn ystod cyfweliad yr heddlu wedi iddi gael ei harestio yng Ngorffennaf 2021, a chael gwybod beth oedd y cyhuddiad yn ei herbyn fe fynnodd Miss Shmylo: "Doeddwn i ddim mewn perthynas gyda Harri Pullen."

Dywedodd eu bod ar delerau da ar y cychwyn, a phan roddodd ddarn papur iddi yn Rhagfyr 2020 gyda'i rif ffôn arno ei hymateb oedd i drin y peth yn ysgafn.

Cafodd ei galw yn Ionawr 2021 i gyfarfod gyda rheolwyr y carchar yn sgil honiadau yn ei herbyn, gan gynnwys "ymddwyn yn rhywiol tuag at garcharorion" - honiad y mae hi'n ei wadu.

Dywedodd iddi ddod i amau mai Pullen oedd wrth wraidd y cwynion, ac fe'i heriodd yn eu cylch.

Atebodd Pullen: "Does neb yn fy ngwrthod i. Edrycha arna'i, rwy' fel ****** model."

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Ruth Shmylo yn gweithio yn yr adain lle roedd Harri Pullen yn cael ei gadw yng Ngharchar y Parc

Yn ôl Miss Shmylo, fe fynnodd Pullen ei bod yn cael cerdyn iddo allu ei ffonio, a hynny ar ôl sylwadau am ei brawd-yng-nghyfraith, oedd hefyd yn gweithio yn y carchar, ei hanifeiliaid anwes a'i char yr oedd hi'n teimlo oedd yn fygythiol.

Roedd hi'n amau bod sylwadau eraill ganddo yn ei hatgoffa o'i gysylltiadau gyda gangiau troseddol.

Byddai Pullen yn ei ffonio bron bob dydd, gan droi ati am gefnogaeth emosiynol pan fu farw ei nain, ac awgrymu bod neb arall yn poeni amdano.

"Wnes i siarad ag e bron i'w lonyddu achos roeddwn i ag ofn mawr ohono," ychwanegodd.

Dywedodd wrtho ar un adeg ei bod am symud i Awstralia yn y gobaith y byddai'n rhoi diwedd ar y galwadau.

Ofer oedd hynny, a phan ddywedodd wrtho "mae'n rhaid i hyn stopio" achos roedd hi'n "torri i lawr yn feddyliol", mae hi'n honni iddo ateb: "Beth yw'r ots?"

'Dwed wrtha'i 'mod i'n ei charu'

Clywodd y rheithgor sgyrsiau ffôn rhwng y ddau, gan gynnwys rhai pan mae Pullen yn trafod amodau carchar ym Manceinion adeg y pandemig.

Clywodd y llys sgwrs hefyd rhwng Pullen a'i fam pan oedd yng Ngharchar y Parc wedi diddymiad cytundeb gwaith Miss Shmylo.

Mae Pullen yn swnio'n bryderus wrth ddweud: "'Sa'i byth eisiau iddi gael loes. Wna'i unrhyw beth gallai iddi... dwed wrthi 'mod i'n ei charu, mam."

Ychwanegodd: "Rwy' eisiau ei phriodi a chaeI plant gyda hi."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r achos yn cael ei gynnal yn Llys y Goron Caerdydd

Dywedodd Miss Shmylo wrth yr heddlu ei bod "wedi saethu fy hun yn fy nhroed" trwy fethu â rhoi gwybod bod Pullen wedi rhoi ei rif ffôn iddi, na'r ffaith iddi ddechrau ei ffonio'n gyson.

Honnodd fod Pullen - carcharor yr oedd "staff a charcharorion eraill yn ei ofni" - wedi ei bygwth trwy ddweud: "Mae gen i rif ffôn swyddog carchar."

Roedd hefyd ar un achlysur, meddai, wedi bygwth anafu carcharor arall am nad oedd hi wedi ateb ei alwadau.

Dywedodd wrth y carcharor dan sylw i aros yn ei gell y diwrnod hwnnw, ond ni roddodd wybod i reolwyr am hyn 'chwaith, gan geisio "sortio fe mas fy hun" a "llonyddu" Pullen.

Fe wnaeth Miss Shmylo gwrdd â mam Pullen ar un achlysur yng Nghasnewydd. Roedd Pullen wedi dweud wrthi "mai fi oedd ei gariad", rhywbeth y gwadodd.

Nid oedd wedi atal rif ffôn Pullen, meddai, gan ei fod yn defnyddio sawl rhif i gysylltu â hi, ac fe fyddai gwrthod ei ateb "ond yn ei gythruddo".

Mae'r achos yn parhau.