Adran Dau: Canlyniadau cymysg i'r ddau o dîm o Gymru

  • Cyhoeddwyd
Omar Bogle of Newport County looks to shoot at goalFfynhonnell y llun, Gareth Everett

Canlyniadau cymysg gafodd y ddau dîm o Gymru yn Adran Dau ddydd Sadwrn.

Ennill fu hanes Wrecsam o 2-1 yn erbyn Colchester tra mai gêm gyfartal gafodd Casnewydd gartref yn erbyn Grimsby.

Aeth Wrecsam ar y blaen wedi pedair munud yn unig ar y Cae Ras gyda gôl gan Elliot Lee, ond anfonwyd George Evans o'r maes am dacl beryglus wedi 26 munud o'r gêm.

Aeth y tim cartref ymhellach ar y blaen yn yr ail hanner wedi i Mitchell sgorio i'w rwyd ei hun, ac er i'r ymwelwyr daro yn ôl ym munudau olaf y gêm, Wrecsam a enillodd gan gadarnhau eu safle yn agos i frig y tabl.

Rhannodd Casnewydd a Grimsby'r pwyntiau yn dilyn gêm gyfartal 1-1.

Y tîm cartref aeth ar y blaen wedi gôl gan Bogle ar ôl 72 munud ond tarodd Grimsby'n ôl o fewn chwe munud gyda gôl gan Rose.

Mae'r ddau dîm yn parhau yn hanner isaf y tabl yn dilyn y canlyniad.