Y Drenewydd: Difrod i ffenestri eglwys yn 'erchyll a chreulon'

  • Cyhoeddwyd
Ffenest liw gyda llun y Baban Iesu wedi torri
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y delweddau ar y ffenestri wedi eu creu o ddarnau o wydr lliw unigryw

Mae eglwys yn y Drenewydd yn wynebu gorfod talu'n ddrud ar ôl i chwech o ffenestri gael eu torri'n fwriadol yn ddiweddar.

Yn ôl Nia Wyn Morris - rheithor y Drenewydd a Llanllwchaearn - fe allai'r gwaith o drwsio'r ffenestri gostio degau o filoedd o bunnau.

Y gred yw i'r ffenestri yn Eglwys Llanllwchaearn gael eu torri rywbryd nos Fercher.

Mae'r rheithor yn credu bod rhywun wedi defnyddio bar oddi ar fedd yn y fynwent i daro a phlygu'r rhwyll metel sy'n gwarchod y ffenestri, gan dorri'r gwydr.

'£30,000 - falle mwy'

Mae rhai o'r ffenestri gafodd eu torri yn rhai lliw, ac un ohonyn nhw yn dangos delwedd o stori Geni'r Iesu.

Dywedodd Nia Wyn Morris: "Mae rhywbeth yn gwarchod y ffenestri ond mae pwy bynnag sydd wedi gwneud hyn wedi defnyddio cymaint o nerth nes iddyn nhw dorri drwy'r mesh ac maen nhw wedi niweidio ffenestri drudfawr, lliw, hyfryd.

"Nid yn unig bod y niwed wedi cael ei wneud, ond mae niweidio eglwys yn fwy poenus rhywsut - mae hon yn eglwys brysur, mae 'na lot o fynd a dwad i'r fynwent, mae angladdau yma, gwasanaethau dydd Sul, priodasau.

"Mae beth sy' wedi digwydd yn erchyll."

Disgrifiad o’r llun,

Mae achosi niwed i eglwys yn boenus gan ei bod yn gwasanaethau'r gymuned, meddai Nia Wyn Morris

Ychwanegodd bod y gwaith o drwsio rhan o ffenest wedi bod yn ddrud yn y gorffennol pan dorrwyd un yn ddamweiniol.

"Roedd darn bach o un o'r ffenestri wedi torri un tro ar ôl i strimmer ddal carreg fach - costiodd hynny tua mil o bunna'.

"A dwi'n edrych ar y niwed rŵan a dwi'n meddwl falle £30,000, falle mwy?

"'Swn i'n synnu dim oherwydd fod y gwaith yn unigryw, bydd angen cael pobl arbenigol i'w wneud ac mae pob un darn o wydr a siap a lliw yn mynd i fod yn eitha' costus. Mae'n beth creulon.

Disgrifiad o’r llun,

Fe allai'r difrod i'r ffenestri gostio degau o filoedd o bunnau

"Dwi wedi cael fy mrifo oherwydd eglwys ydy hi ac mae hi yma o ran gwasanaeth, ac mae rhywun wedi dod yma a gwneud y niwed yma ac mae'n debyg nad ydyn nhw'n meddwl am y peth rŵan.

"Maen nhw wedi niweidio nid yn unig yr adeilad ond mi fydd lot o bobl yn y dref yma wedi brifo am fod ganddyn nhw gariad at yr eglwys hon."

Pynciau cysylltiedig