Cartref newydd i ffenestri lliw cerflunydd o fri

  • Cyhoeddwyd
Rhai o'r ffenestri lliw yn eu lleoliad newydd yn Eglwys Dewi Sant
Disgrifiad o’r llun,

Rhai o'r ffenestri lliw yn eu lleoliad newydd yn Eglwys Dewi Sant

Mae 12 ffenestr liw gafodd eu dylunio gan y cerflunydd o fri, Jonah Jones, ar gyfer eglwys yng Ngwynedd, wedi cael eu symud i gartref newydd yn Sir Y Fflint.

Cafodd y ffenestri eu creu'n wreiddiol yn 1966 ar gyfer Eglwys Babyddol Santes Fair ym Morfa Nefyn, a gafodd ei dymchwel yn 2019.

Creodd Jonah Jones y ffenestri yn ei weithdy yng Ngwynedd, gan ddefnyddio techneg dalles de verre, sy'n golygu torri slabiau gwydr modfedd o drwch a defnyddio concrid i'w dal wrth ei gilydd, fel arfer.

Yn yr achos hwn defnyddiodd y cerflunydd glud resin epoxy yn lle concrid.

Maent bellach wedi cael eu hadleoli yn Eglwys Dewi Sant yn Yr Wyddgrug, yr unig eglwys Gatholig yng ngogledd Cymru oedd ddigon mawr i'w cymryd.

Ond hyd yn oed wedyn roedd rhaid gosod pedair o'r 12 ffenest ar waliau oddi mewn i'r eglwys, gyda lampau tu ôl iddynt i'w goleuo.

Disgrifiad o’r llun,

Mike Bunting oedd yn gyfrifol am ymgymryd â'r dasg o adleoli'r ffenestri

Mae'r gwaith o'u symud wedi cymryd dwy flynedd ar gost o £66,000, yn cynnwys gwaith adfer a thrwsio.

Mae Mike Bunting yn aelod o Eglwys Dewi Sant, ac fel peiriannydd siartredig sydd wedi ymddeol, roedd yn croesawu'r cyfle a'r sialens o adleoli'r gwaith celf arbennig.

Un o'r heriau mwyaf oedd pwysau'r paneli gwydr.

"Mae pob panel yn pwyso 120kg," meddai. "Ro'n i'n dyfalu sut i'w codi nhw i'w lle, felly fe ddefnyddion ni offer dringo i'w codi a'u hangori cyn eu gosod yn eu lle."

Dywedodd Peter, mab Jonah Jones, ei fod wrth ei fodd bod y ffenestri wedi cael cartref newydd.

Roedd ei dad yn un o'r arloeswyr wrth ddefnyddio defnydd amgen yn lle concrid wrth greu ffenestri dalles de verre, meddai.

"Sylweddolwyd y byddai problemau efo concrid am na fyddai'n chwyddo mewn gwres, ar yr un raddfa â'r gwydr, felly roedd newid i ddefnyddio resin epoxy yn dechneg hollol newydd," esboniodd.

"Felly roedd Jonah yn un o nifer o arloeswyr."

Disgrifiad o’r llun,

Mike Philpot, gydag un o ffenestri Jonah Jones tu cefn iddo

Cafodd rhai o'r ffenestri eu trwsio a'u hadfer yng Nghanolfan Gwydr Pensaernïol, Coleg Celf Abertawe.

Mae gofalwyr newydd y ffenestri'n dweud y byddant yn dal i gael gofal arbennig yn eu cartref newydd.

Dywedodd Mark Philpot, meistr y seremonïau yn Eglwys Dewi Sant bod "llawer o dreftadaeth werthfawr a allai gael ei cholli".

"Mae ffenestri mewn perygl o gael eu colli oherwydd y tywydd neu fandaleiddio. Yma, gan eu bod nhw ar y tu mewn, maen nhw'n cael eu diogelu ac o'r herwydd byddant yn parhau mor hir ag y mae'r eglwys hon yn parhau."

Gwrthodwyd cais cynllunio i godi saith o dai, fyddai'n costio tua £500,000 yr un, ar gyn-safle Eglwys Babyddol Santes Fair ym Morfa Nefyn gan Gyngor Gwynedd ym mis Tachwedd 2022.

Disgrifiad o’r llun,

Mike Philpot a Mike Bunting yn edmygu un o'r paneli lliwgar

Ganed Jonah Jones yn Washington, Sir Durham, ond Cymro oedd ei dad.

Symudodd i Gymru ar ôl yr Ail Ryfel Byd gan weithio fel cerflunydd a cherfiwr llythrennau cain.

Bu farw yn 2004, ond mae ei waith i'w weld mewn nifer o adeiladau cyhoeddus yn cynnwys llysoedd barn Yr Wyddgrug, a bellach Eglwys Dewi Sant yn yr un dref.

Pynciau cysylltiedig