Trefforest: Ymchwilio i lofruddiaeth dyn 30 oed
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu'r De wedi lansio ymchwiliad llofruddiaeth ar ôl i gorff dyn gael ei ganfod ger Pontypridd.
Cafodd swyddogion eu galw i eiddo ar Stryd y Dywysoges, Trefforest am tua 19:55 nos Sul, yn dilyn adroddiadau o ymosodiad.
Bu farw'r dyn 30 oed ac mae ei deulu bellach yn derbyn cefnogaeth gan swyddogion arbenigol.
Mae'r ardal wedi ei chau i'r cyhoedd ar hyn o bryd wrth i ymholiadau'r heddlu barhau.
Dywedodd yr uwch-arolygydd Mark O'Shea, sy'n arwain yr ymchwiliad: "Mae hi'n angenrheidiol i ni ddeall beth yn union ddigwyddodd ac rydyn ni'n galw ar y cyhoedd i'n helpu.
"Byddwn yn annog unrhyw un oedd yn yr ardal rhwng 19:00 a 20:30 nos Sul ac a welodd unrhyw beth all fod o ddefnydd i'r ymchwiliad i gysylltu â ni.
"Os oes lluniau dashcam, camerâu cylch cyfyng neu gamerâu cloch drws gyda chi, yna anfonwch o aton ni. Mae diddordeb arbennig gennym ni weld lluniau rhwng Broadway a thref Pontypridd."
Ychwanegodd y byddai presenoldeb yr heddlu yn amlwg yn yr ardal wrth i'r ymchwiliad barhau.