'Nadolig mor anodd wedi i ni golli ein mab Ned'
- Cyhoeddwyd
Mae mam o Aberystwyth wedi disgrifio'r Nadolig fel "cyfnod mor anodd pan chi wedi colli plentyn", ond ei bod yn dod o hyd i ffordd o oroesi'r cyfnod er lles ei meibion eraill.
Bu farw Ned, mab Sharon Marie a Bleddyn Jones, pan oedd yn bump oed wedi gwrthdrawiad ar ddydd Gwener y Groglith 2016. Hwn fydd wythfed Nadolig y teulu hebddo.
Wrth siarad â Cymru Fyw dywedodd Sharon nad yw paratoadau'r Nadolig yn mynd yn haws, er bod pobl yn credu bod rhywun yn dod i delerau gyda'r hyn sydd wedi digwydd.
Daw ei sylwadau wrth i elusennau sy'n helpu teuluoedd mewn galar ddweud bod y Nadolig yn gyfnod hynod o brysur iddyn nhw - gyda nifer o deuluoedd yn wynebu'r Nadolig cyntaf wedi colli plentyn.
"Mae'n anodd iawn ond dwi'n gorfod 'neud ymdrech. Mae gen i ddau blentyn arall a rhywbeth i blant yw'r Dolig," meddai Sharon.
"Mae'n Dolig ni ar gyfer Tomi a Cai ac mae'n bwysig g'neud fwy neu lai yr un peth â ni wastad wedi 'neud, ond mae lle i Ned, wrth gwrs.
"Dwi wastad yn rhoi hosan Ned allan gyda hosan y ddau arall - allwn ni ddim gadael hosan Ned yn y bocs yn yr atig.
"Mi fydd hosan Ned wastad yn wag ar ei wely, fe fydd 'na ofod gwag lle dylai ei anrhegion fod ac mae 'na wastad gadair wag wrth y bwrdd - cadair Ned.
"Y Dolig cynta' hebddo mi wnaeth fy chwaer brynu pelen gyda'i enw i roi ar y goeden, a'r belen yna sydd wastad yn mynd gynta' ar y goeden Dolig.
"Mae'n bwysig i fi rywsut bod Ned dal yn y canol hefo ni. Mae'n anodd.
"Wrth brynu anrhegion dwi wastad yn meddwl be fyddai Ned wedi gofyn amdano eleni - fe fyddai fe, wrth gwrs, bron yn 13 erbyn hyn."
Yr hyn sy'n bwysig fel rhieni sydd wedi colli plant yw peidio rhoi gormod o bwysau arnoch chi'ch hun, meddai Sharon.
Dywedodd, er mor anodd yw'r sefyllfa, bod hynny'n dod rywfaint yn haws.
"Dwi'm yn teimlo'n euog rhagor am beidio mynd i weld teulu a ffrindiau adeg y Nadolig - yr hyn sy'n bwysig yw gneud be' sy'n teimlo'n iawn i ni.
"Fydda i'n siopa ar-lein, dwi'n osgoi mynd i ganol torf ac fe fyddwn ni'n cael Dolig - jyst y pedwar ohonon ni.
"Yn y bore fe fyddai'n mynd at fedd Ned ar ben fy hun a chael ryw hanner awr jyst fi a fe.
"Mae'r plant yn brysur yn agor eu hanrhegion bryd hynny ac yn y pnawn fe awn ni'n pedwar at y bedd tra'n mynd am dro."
Ychwanegodd Sharon: "Roedd Ned yn hoff iawn o'r Nadolig ac o Rudolph yn arbennig.
"Dyw Cai ddim yn ei gofio ac mae e'n gofyn llawer o gwestiynau a dwi innau'n rhannu nifer o straeon am Ned a'i ddywediadau doniol.
"Dyw hynny ddim wastad yn hawdd chwaith. Mae Tomi yn ei gofio - ac wrth i fi rannu atgofion mae'n rhaid i fi feddwl am ei deimladau e hefyd - yn enwedig pan mae'n mynd yn dawel."
Ychwanegodd Sharon bod y flwyddyn newydd yn gallu bod yn anodd hefyd a'u bod fel teulu am fynd i ffwrdd am gyfnod, wedi i hynny fod ychydig yn haws y llynedd.
Galw am fwy o gymorth
"Mae adeg pen-blwydd Ned yn hynod anodd, a phob Gwener y Groglith a dyddiad ei farw, ond weithiau daw cyfnod anodd yn ddiarwybod," ychwanega Sharon.
"Fel awdures mae ysgrifennu wedi bod o gymorth, ond ddim yn help ar hyn o bryd. Mae fy ngwaith celf hefyd o gymorth ond weithiau dwi methu ymdopi o gwbl."
Dywedodd Sharon mai'r hyn sy'n anodd yw cael cymorth mewn da bryd, ac er bod rhywun yn gwerthfawrogi cymorth elusennau, yn aml mae rhywun angen cymorth arbenigol.
"Yn anffodus mae hi mor anodd cael cymorth. Dwi wedi gorfod brwydro am y cymorth iechyd meddwl iawn ar hyd y blynyddoedd," meddai.
"Ddechrau'r haf es i at y meddyg, cael fy nghyfeirio at rywun arall ac wedyn cael gwybod bod yna restr aros o 18 mis cyn medru gweld rhywun a allai fy helpu.
"Yn ffodus roeddwn i'n gallu mynd yn breifat - ond dyw llawer ddim yn gallu gwneud hynny a rhaid datrys y sefyllfa. Dyw'r cymorth iawn ddim yna yn anffodus."
'Cymorth ar gael'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae colli plentyn yn ddinistriol ac rydym am sicrhau ein bod yn darparu'r gofal a'r gefnogaeth sydd eu hangen ar deuluoedd.
"Mae gwella cymorth iechyd meddwl yn parhau i fod yn flaenoriaeth ac mae gan bob bwrdd iechyd gynlluniau ar waith i leihau amseroedd aros a gwneud gwasanaethau'n fwy hygyrch.
"Mae gennym gymorth hawdd ei gyrchu 24/7, gan gynnwys ein gwasg 2 GIG 111 am gymorth brys a'n llinell gymorth CALL i'r rhai sy'n poeni am eu hiechyd meddwl.
"Mae'r fframwaith profedigaeth yn nodi'r cymorth y dylai pobl ddisgwyl ei gael os ydyn nhw'n wynebu profedigaeth neu wedi profi profedigaeth."
Yn y cyfamser dywed Sharon ei bod hi'n anodd i unrhyw un na sydd wedi colli plentyn ddeall y profiad dirdynnol.
Yr hyn sy'n bwysig iddi hi, meddai, yw 'neud ei gorau a "hynny heb anghofio am Ned bach".
Os ydych chi wedi eich effeithio gan gynnwys yr erthygl, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefanBBC Action Line.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd3 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd25 Mawrth 2017