Trefechan: Lladron wedi dwyn goleuadau coeden Nadolig

  • Cyhoeddwyd
Coeden heb olau

Mae yna dristwch mewn pentref ger Merthyr Tudful wedi i rywun ddwyn y goleuadau oddi ar y goeden Nadolig gymunedol.

Hon oedd y flwyddyn gyntaf i'r gymuned yn Nhrefechan osod coeden Nadolig, a oedd yn rhodd gan gwmni adeiladu lleol, ac fe gododd trigolion lleol arian i dalu am y goleuadau.

Mae yna obaith sicrhau goleuadau newydd cyn yr ŵyl, er nad oes gan y cyngor cymuned lawer o arian i brynu rhagor.

"Pwy bynnag nath e, roedden nhw'n benderfynol - roedd e yng nghanol y nos, gydag ysgol," dywedodd y Cynghorydd Lisa Mytton a drefnodd y goeden.

"Roedden nhw wedi eu clymu arni i wneud yn siŵr eu bod yn saff... mae'n un o'r pethau mwyaf trist yr adeg yma o'r flwyddyn.

Ffynhonnell y llun, Julie Ridley
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y goeden wedi codi calon trigolion wedi cyfnod anodd yn sgil gwaith ffordd lleol a difrod Storm Dennis

"Rwy' wedi cael cynigion - pobl hyd yn oed yn cynnig goleuadau batri - ond rwy'n aros am alwad gan [gwmni] goleuo stryd i weld a allen nhw helpu."

Dywedodd un o'r pentrefwyr, Julie Ridley, bod cael coeden Nadolig yn Nhrefechan am y tro cyntaf wedi "dod â'r gymuned at ei gilydd" a gwneud i bobl "deimlo'n sbesial".

"Roedd pobl yn hapus bod e yna. Es i â'r ci am dro a meddwl pa mor hardd oedd y goeden.

"Es i â'r ci am dro neithiwr ac roedd bob man yn dywyll. Roedd y llawenydd wedi mynd o'r pentref, braidd."

Pynciau cysylltiedig