Plygain-iadur Ionawr 2024

  • Cyhoeddwyd
Llanfyllin
Disgrifiad o’r llun,

Cantorion yn canu plygain yn Llanfyllin

Mae nifer o wasanaethau Plygain wedi cael eu cynnal yn ystod mis Rhagfyr, ond peidiwch â phoeni, dydi'r tymor ddim wedi dod i ben. Mae'n arferol i'r gwasanaethau hyn gael eu cynnal hyd ddiwedd mis Ionawr.

Ar un adeg, roedd y gwasanaethau plygain hanesyddol yn cael eu cynnal ar hyd a lled y wlad. Daeth nifer o'r rheiny i ben, ond cafodd y traddodiad ei gynnal yn ddi-dor mewn ardaloedd fel Sir Drefaldwyn a de Sir Ddinbych. Erbyn heddiw, rydym ni'n gweld adfywiad cenedlaethol, fel mae'r rhestr isod yn ei brofi.

Gwasanaethau Plygain hyd ddiwedd mis Ionawr

Nos Iau 04/01

Eglwys Sant Crwst, Llanrwst - 19:00

Nos Wener 05/01

Capel Ebenezer, Dinas Mawddwy - 19:00

Capel Moreia, Llanfair Caereinion (er budd Ymchwil Cancr) - 19:00

Nos Sul 07/01

Capel y Tabernacl, Yr Eglwys Newydd - 17:00

Eglwys Sant Ffagan, Trecynon, Aberdâr, CF44 8LL - 17:00

Eglwys Sant Erfyl, Llanerfyl - 18:00

Eglwys Sant Iestyn, Llaniestyn, LL53 8SG - 18:00

Tabernacl, Llwynhendy - 18:00

Capel Cefnblodwel, Nantmawr, Croesoswallt - 19:00

Capel y Berthen, Licswm - 19:00

Capel Blaenannerch, ger Aberporth (Plygain Cymdeithas Ceredigion) - 19:00

Nos Fawrth 09/01

Eglwys Sant Tudur, Darowen - 19:00

Nos Iau 11/01

Eglwys Dewi Sant, Abergynolwyn - 19:00

Eglwys Sant Catwg, Pentyrch (Plygain Clwb y Dwrlyn) - 19:00

Nos Wener 12/01

Eglwys St Tydecho, Mallwyd - 19:00

Dydd Sul 14/01

Eglwys Sant Teilo, Amgueddfa Werin Sain Ffagan, Caerdydd (trefnir gan Eglwys Minny Street) - 14:00

Capel y Boro, Llundain - 16:00

Capel Bethlehem, Gwaelod y Garth - 17:00

Eglwys Sant Twrog, Llanddarog - 17:00

Capel Bethesda, Yr Wyddgrug - 18:00

Eglwys y Drindod Sanctaidd, Stryd y Drindod, Y Fenni - 18:00

Neuadd Llanfihangel, Llanfihangel yng Ngwynfa - 18:30

Eglwys Sant Gwyndaf, Llanwnda - 19:00

Nos Fercher 17/01

Eglwys y Santes Fair, Llanfair, Harlech - 19:00

Nos Wener 19/01

Eglwys Sant Nicolas, Trefaldwyn - 18:30

Cadeirlan Bangor - 19:00

Nos Sul 21/01

Eglwys Santes Catrin, Gorseinon - 18:00

Eglwys Unedig Jerusalem, Bethesda - 18:00

Capel Ainon, Llanuwchllyn (ymgasglu ger y neuadd bentref) - 19:00

Nos Wener 16/01

Cadeirlan Llanelwy - 19:00

Nos Sul 28/01

Eglwys St Teilo, Llandeilo - 18:00

Nos Lun 29/01

Capel Rhydlwyd, Lledrod - 18:30

Os hoffech chi ychwanegu gwasanaeth Plygain i'n digwyddiadur e-bostiwch cymrufyw@bbc.co.uk

Casglwyd y rhestr ddyddiadau yma gan griw plygain.org. Ewch draw yno am fwy o wybodaeth.

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig