Cyhuddo dyn o ladrad a bygwth staff siop â disel

  • Cyhoeddwyd
Lidl, Dowlais
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddigwyddodd y lladrad a'r ymosodiad honedig yn siop Lidl, Dowlais ddydd Sadwrn 16 Rhagfyr

Mae dyn 54 oed wedi ymddangos mewn llys ynadon ym Merthyr Tudful wedi ei gyhuddo o ladrata o archfarchnad a bygwth gweithwyr yno gyda disel.

Clywodd yr ynadon bod David Steven Murray wedi dwyn £500 o siop Lidl yn Nowlais yn ystod y lladrad ddydd Sadwrn, 16 Rhagfyr.

Yn ôl cyfreithiwr yr erlyniad, Ryan Colamazza, roedd Mr Murray, sy'n byw yn Nowlais, wedi mynd â chynhwysydd i orsaf betrol a'i lenwi gyda disel cyn gadael heb dalu amdano.

Roedd wedyn, meddai, wedi mynd i siop Lidl a bygwth dau aelod o staff cyn arllwys disel ar un ohonyn nhw ac ar lawr y siop.

Dim cais am fechnïaeth

Yn ddiweddarach, clywodd y llys, fe wnaeth Mr Murray ddwyn ffôn symudol ac ymosod ar rywun roedd yn ei nabod, oedd angen triniaeth ysbyty.

Mae Mr Murray yn wynebu pum cyhuddiad o ladrata, gadael heb dalu, meddu ar arf ymosodol ac achosi niwed corfforol. 

Dywedodd cadeirydd yr ynadon bod rhaid trosglwyddo'r achos i Lys y Goron oherwydd difrifoldeb y troseddau.

Doedd dim cais am fechnïaeth ac mae disgwyl i Mr Murray fynd o flaen Llys y Goron Merthyr Tudful ar 17 Ionawr.