Trefforest: Arestio tri mewn cysylltiad â llofruddiaeth

  • Cyhoeddwyd
Daniel RaeFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd corff Daniel Rae ei ddarganfod nos Sul

Mae tri o bobl wedi cael eu harestio mewn cysylltiad â marwolaeth dyn 30 oed ger Pontypridd.

Fe wnaeth Heddlu'r De lansio ymchwiliad llofruddiaeth yn dilyn marwolaeth Daniel Rae nos Sul.

Cafodd swyddogion eu galw i eiddo ar Stryd y Dywysoges, Trefforest, ychydig cyn 20:00 yn dilyn adroddiadau o ymosodiad.

Fe gadarnhaodd y llu bod dau ddyn, 22 a 33 oed o Birmingham a Glyn-coch, wedi cael eu harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth, tra bod dynes 21 oed wedi ei harestio ar amheuaeth o gynorthwyo troseddwr a cheisio gwyrdroi cwrs cyfiawnder.

Disgrifiad o’r llun,

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad honedig ar Stryd y Dywysoges, Trefforest

Dywedodd y Ditectif Uwcharolygydd Mark O'Shea, sy'n arwain yr ymchwiliad: "Hoffwn bwysleisio unwaith eto ein bod ni'n credu mai digwyddiad unigol oedd hwn, a'n bod ni'n hyderus nad oes unrhyw berygl ehangach i'r cyhoedd.

"Byddwn yn annog unrhyw un oedd yn ardal Stryd y Dywysoges am 19:30 nos Sul ac a welodd unrhyw beth all fod o ddefnydd i'r ymchwiliad i gysylltu â ni."

Mae'r ymchwiliad yn parhau.

Pynciau cysylltiedig