Pentref Bethlehem yn rhoi ei stamp ei hun ar y Nadolig
- Cyhoeddwyd
Mae 'na ymdrech ar waith ym mhentref Bethlehem, Sir Gâr i gadw traddodiad Nadoligaidd unigryw yn fyw.
Dros y blynyddoedd mae miloedd o bobl wedi teithio i'r pentref bach ger Llandeilo er mwyn derbyn stamp arbennig ar eu cardiau Nadolig.
Ar un adeg byddai'r Swyddfa Bost wedi rhoi 'ffranc Bethlehem' neu farc post ar y cardiau ond daeth yr arfer hwnnw i ben.
Dywedodd Nia Clement, sy'n byw yn y pentref ers 40 mlynedd, bod y trigolion wedi creu stamp eu hunain am ei fod yn "draddodiad nad oedden ni'n fodlon ei golli".
Yn ôl Ms Clement, sydd hefyd yn rheolwr ar y neuadd pentref, mae'r traddodiad yn bodoli ers degawdau.
"Yn wreiddiol roedd y meistr post yn rhoi'r stamp ar gardiau yn ôl pan yr oedd gan bob tref farc post ei hun, felly lle bynnag yr oeddech chi'n byw byddai yna farc unigryw yn eich swyddfa bost lleol," meddai.
"Pan gaeodd y swyddfa bost, roedd 'na gyfnod lle'r oedd fan arbennig yn dod i'r pentref gyda gwasanaeth marcio. Roedd cannoedd o bobl yn arfer dod i gael marc post Bethlehem."
Ar ôl i'r ysgol leol gau, daeth y trigolion ynghyd i brynu'r adeilad er mwyn ei ddefnyddio fel neuadd bentref.
Roedd y Swyddfa Bost yn rhentu ystafell yn yr adeilad am gyfnod, ond daeth hynny i ben hefyd.
Ond dim dyna ddiwedd y traddodiad.
"Fe benderfynodd y pentref bod stamp Bethlehem yn draddodiad nad oedden ni'n fodlon ei golli, felly aethon ni ati i greu stamp ein hunain," meddai Ms Clement.
"Mae e wedi bod yn andros o boblogaidd ymhlith pobl o du hwnt i'r ardal, ond oherwydd costau cardiau a phostio mae'r diddordeb yn lleihau.
"Roedd pobl yn arfer dod a 50 o gardiau, ond nawr efallai fydda nhw yn dod a 5. Rhai dyddiau rydyn ni'n brysur iawn, dyddiau eraill dim byd."
Mae'r rhai sy'n cynnig y gwasanaeth yn derbyn bod yna newid wedi bod o ran y traddodiad o anfon cardiau Nadolig.
Mae cynnydd negesu digidol a'r cyfryngau cymdeithasol dros yr 20 mlynedd diwethaf yn golygu bod cadw mewn cysylltiad â phobl yn llawer haws.
Yn ôl rhai, mae cardiau Nadolig hefyd yn cael effaith ar yr amgylchedd oherwydd yr holl wastraff papur.
Ond mae'r argyfwng costau byw a'r cynnydd mewn costau postio hefyd wedi cael effaith ar y nifer sy'n dal i yrru cardiau.
Er hynny, mae'r Post Brenhinol yn amcangyfrif y byddan nhw yn cludo dros 150 o filiynau o gardiau dros gyfnod y Nadolig.
Mae Di a Jeremy Bultitude, sy'n byw ger Llangadog, ymhlith y rhai sydd wedi defnyddio'r gwasanaeth eleni.
Ers symud i'r ardal maen nhw wedi ei ddefnyddio bob blwyddyn, ond yn cydnabod fod nifer y cardiau y maen nhw'n eu hanfon yn lleihau.
"Os ydych chi wedi symud o gwmpas a bod ffrindiau gennych chi o amgylch y wlad, yna mae'n ffordd neis o gadw mewn cysylltiad," meddai Di.
"Dwi'n meddwl fod pobl wir yn gwerthfawrogi'r stamp Bethlehem."
Ychwanegodd Jeremy: "Mae pobl yn gwybod yn syth bod y cardiau wedi dod gennym ni. Dwi'n meddwl ei fod yn arbennig iawn.
"Dwi ddim yn meddwl fysa ni'n anfon cymaint o gardiau os nad oedden ni'n byw mor agos i Fethlehem."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Rhagfyr 2023