Ho! Ho! Ho! Neges gan Siôn Corn

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Ho! Ho! Ho! Gwyliwch... mae gan Siôn Corn neges i chi

Mae hi bron yn noswyl Nadolig, mae Siôn Corn wrthi'n brysur yn llenwi ei sach, ac yn ail edrych ar ei lyfr mawr gwyrdd er mwyn sicrhau nad oes unrhyw blentyn da'n mynd yn waglaw eleni.

Nid pob dydd mae rhywun yn cael mynedid i'w swyddfa, ond roedd criw Cymru Fyw'n ddigon lwcus i gael gwahoddiad i dreulio awr yn ei gwmni'n ddiweddar.

Yng nghanol ei brysurdeb, mae wedi recordio fideo arbennig i blant Cymru a thu hwnt, ac yn pwysleisio tair rheol bwysig sydd rhaid ei ddilyn ar noswyl Nadolig.

Roedd hi'n hyfryd gweld y ceirw hefyd, fydd yn rhan allweddol o daith Siôn Corn wrth iddo wibio o wlad i wlad.

Roedd treulio amser gyda Siôn Corn yn brofiad arbennig, ac roedd ei neges yn debyg iawn i'r hyn sydd gan griw Cymru Fyw i bawb - Nadolig Llawen i chi gyd.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd y ceirw'n bresennol wrth i griw Cymru Fyw ymweld â Siôn Corn

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig