Adran Dau: Wrecsam 2-0 Casnewydd
- Cyhoeddwyd
Cefnogwyr y Dreigiau sy'n dathlu nos Sadwrn wedi eu buddugoliaeth yn erbyn Casnewydd yn y gêm ddarbi yn Adran Dau.
Hon ydi'r gêm ddarbi ryfeddaf gan fod dros gan milltir o bellter rhwng y ddwy ddinas.
Mae yna dipyn o hanes rhwng y ddau dîm - ddeng mlynedd yn ôl enillodd Casnewydd esgyniad i'r gynghrair bêl-droed drwy guro Wrecsam yn Wembley.
Roedd yna gryn edrych ymlaen at y cyfarfyddiad hwn ar y Cae Ras a hynny o flaen torf fwy nag arfer gyda'r eisteddle dros dro newydd yn chwyddo'r dorf i bymtheg mil.
Roedd disgwyl goliau gan y ddwy ochr gyda Paul Mullin ac Elliot Lee yn sgorwyr cyson yn y crys coch ac mae Will Evans yn canfod y rhwyd yn aml iawn i Gasnewydd.
Teithio i Wrecsam yn chwilio am fuddugoliaeth wnaeth yr Alltudion ac fe gawsant sawl cyfle i fynd ar y blaen ac heblaw am arbediadau da gan Arthur Okonkwo yn ngôl y Dreigiau byddai Casnewydd ar y blaen.
Prin iawn fu cyfleoedd Wrecsam yn yr hanner cyntaf ac roedd y gwynt yn gryf yn eu hwynebau.
Roedd y tîm cartref yn llawer iawn mwy bywiog yn yr ail hanner.
Wedi pwyso trwm am gyfnod, daeth y gôl gyntaf i James Jones a hynny yn ei ganfed gêm i'r tîm - ergyd droed chwith i gornel isaf y rhwyd a hynny o flaen yr eisteddle newydd.
Er i Gasnewydd barhau i ymosod roedd Wrecsam yn fygythiad cyson.
Gyda thair munud i fynd daeth un o dafliadau hir Ben Tozer (a fu yn chwarae i Gasnewydd) i'r cwrt chwech, lle cododd Elliot Lee a phenio i'r rhwyd.
Yn y diwedd cosbwyd Casnewydd am beidio cymryd eu cyfleoedd yn yr hanner cyntaf a chefnogwyr y Dreigiau oedd yn dathlu buddugoliaeth ar y Cae Ras.