Penodi Syr Dave Brailsford i fwrdd Manchester United

  • Cyhoeddwyd
Jean-Claude Blanc (chwith) a Syr Dave Brailsford (canol) sydd wedi'u dewis gan Syr Jim Ratcliffe (dde) i fod ar y bwrddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Jean-Claude Blanc (chwith) a Syr Dave Brailsford (canol) sydd wedi'u dewis gan Syr Jim Ratcliffe (dde) i fod ar y bwrdd

Mae Syr Dave Brailsford wedi'i benodi i fod yn aelod o fwrdd Manchester United.

Daeth y newyddion brynhawn Sul fod y biliwnydd o Brydain, Syr Jim Ratcliffe, wedi cytuno i brynu cyfran o 25% gwerth tua £1.25bn yn y clwb.

Fel rhan o'r cytundeb, bydd Grŵp Ineos - cwmni Syr Jim Ratcliffe - yn cymryd rheolaeth o weithrediadau pêl-droed United.

Bydd Syr Dave, a gafodd ei fagu yn ardal Deiniolen yng Ngwynedd, yn cael un o ddwy sedd Ineos ar fwrdd y clwb.

Mae Syr Dave yn arweinydd tîm yn Ineos ond mae'n adnabyddus yn bennaf am ei gampau yn y byd seiclo.

Nid yw'n glir eto beth yn union fydd rôl Syr Dave gyda thîm pêl-droed Man United o ddydd i ddydd.

Bydd Ratcliffe, 71, hefyd yn rhoi £236m ($300m) ar gyfer buddsoddiad yn stadiwm Old Trafford yn y dyfodol.

Daw'r cyhoeddiad 13 mis ar ôl i berchnogion y clwb, y teulu Glazer, ddatgan eu bod yn ystyried gwerthu.

Fe brynodd y teulu Americanaidd y clwb am £790m ($1.34bn) yn 2005.

Pynciau cysylltiedig

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol