Canlyniadau Adran Dau: Wrecsam a Chasnewydd

  • Cyhoeddwyd
Chwaraewr wrecsam James McCleanFfynhonnell y llun, Paul Greenwood/Shutterstock

Buddugoliaeth i Wrecsam a Chasnewydd yng ngemau yr Ail Adran ar Ŵyl San Steffan.

Swindon 0 - 1 Wrecsam

Roedd gôl gan James McClean wedi chwarter awr o chwarae- ei gyntaf i'r clwb - yn ddigon i godi Wrecsam i'r ail safle yn yr Ail Adran.

Er i James Jones gael ei anfon o'r cae gyda chwarter awr o'r gêm yn weddill, llwyddodd yr ymwelwyr i atal y tîm cartref rhag unioni'r sgôr.

Hon oedd trydedd buddugoliaeth y Dreigiau o'r bron a bydd tîm Phil Parkinson yn llawn hyder wrth iddyn nhw deithio i wynebu Wallsall nos Wener yn eu gêm olaf yn 2023.

Casnewydd 4 - 2 Forest Green

Tarodd Casnewydd yn ôl yn erbyn Forest Green Rovers gan sicrhau buddugoliaeth bwysig i'r tîm cartref.

Aeth yr ymwelwyr ddwy gôl ar y blaen trwy gôl i'w rwyd ei hun gan Delaney wedi dwy funud yn unig a gôl gan Stevens wedi hanner awr o chwarae.

Trobwynt y gêm oedd penderfyniad y dyfarnwr i anfon Callum Jones o'r cae am ail drosedd yn gynnar yn yr ail hanner.

Manteisiodd y tîm cartref ar hyn gan rwydo bedair gwaith, gyda Will Evans yn sgorio dwy o'r rheini.