Men Up: Ffilm newydd i daclo tabŵ iechyd meddwl dynion

  • Cyhoeddwyd
Llun o'r castFfynhonnell y llun, BBC/Quay Street Productions/Tom Jackson

Mae ffilm newydd yn cael ei rhyddhau ddydd Gwener gyda'r gobaith o "helpu i daclo'r tabŵ sy' ynghlwm â thrafod problemau iechyd meddwl dynion".

Mae'r ffilm 'Men Up' wedi ei seilio ar stori wir ynghylch profion clinigol a chriw o ddynion cyffredin yn Ysbyty Treforys, Abertawe yn y 90au a arweiniodd at ddarganfod y cyffur Viagra.

Mae'n cynnwys rhai o sêr amlycaf byd ffilm a theatr yng Nghymru fel Iwan Rheon, Aneurin Barnard a Steffan Rhodri.

Mae rhai o'r actorion wedi dweud pa mor allweddol yw siarad am iechyd meddwl dynion, ac yn gobeithio y bydd y ffilm yn helpu i daclo'r tabŵ.

Nifer ddim yn gwybod yr hanes

Fe gafodd un o'r cast, Steffan Rhodri - sy'n chware rhan Colin yn y ffilm - ei eni yn Ysbyty Treforys, ond yn debyg i nifer sydd ynghlwm â'r fenter, nid oedd yn ymwybodol o'r hanes o gwbl.

Dywedodd ei fod yn 'nabod yr ysbyty yn dda "ond doedd 'da fi ddim syniad bod hyn yn digwydd yno".

Ychwanegodd ei fod yn "stori anhygoel".

"Mae'r cyffur yma wedi bod yn llwyddiannus iawn i bobl dros y byd ac rwy'n teimlo yn falch iawn o'r cysylltiad rhwng Abertawe a'r darganfyddiad yma."

Ffynhonnell y llun, BBC/Quay Street Productions/Tom Jackson
Disgrifiad o’r llun,

Yr actorion Phaldut Sharma, Iwan Rheon, Mark Lewis Jones a Steffan Rhodri sy'n rhan o'r cynhyrchiad

Mae'r actor Mark Lewis Jones, sy'n chwarae rhan Eddie, o'r farn y gall y stori hon am y grŵp o ddynion oedd yn rhan o'r treial yn Ysbyty Treforys helpu dynion eraill.

Dywedodd: "Mae Eddie 'di byw ei fywyd o gwmpas dynion a byw â delwedd macho o'i flaen a chuddio ei holl deimladau a phroblemau sy' ganddo dros ddegawdau gan greu'r ddelwedd o ddyn mawr.

"Ond o dan hyn i gyd ma' lot o deimladau ma' e methu rhoi enw arnyn nhw."

Er bod y cymeriadau yn y ffilm yn ffug, mae Mark Lewis Jones yn teimlo fod y stori yn un gwir i lot o ddynion yn y 90au pan oedd y profion yn digwydd yn Nhreforys.

"Ma'n siŵr bod lot o ddynion fel Eddie, a dynion eraill sydd 'di bod trwy'r profiad yma yn y 90au, a sut mae'r profiad yma wedi newid eu bywydau a bywydau pobl o'u cwmpas, eu partneriaid ac ati," meddai.

'Stori fawr i Gymru ac Abertawe'

Dywed Aneurin Barnard, sy'n portreadu ymgynghorydd meddygol yn yr ysbyty, bod y ffilm yn gyfle i bwysleisio mai Abertawe oedd y man cychwyn i'r cyffur, o gofio bod lot o ddryswch ynglŷn â sut y cafodd Viagra ei ddarganfod.

Dywedodd: "Mae hon yn stori fawr i Gymru ac i Abertawe. Dyma un o'r cyffuriau mwyaf llwyddiannus erioed."

Ychwanegodd ei fod yn "hyfryd i allu adrodd y stori".

Ffynhonnell y llun, BBC/Quay Street Productions/Tom Jackson
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd yr actor Iwan Rheon bod dynion yn ei gweld hi'n anodd siarad am eu teimladau

Roedd yr actor adnabyddus Iwan Rheon yn bresennol ar noson premiere y ffilm yn sinema Taliesin yn Abertawe ddechrau mis Rhagfyr.

Meurig Jenkins yw enw ei gymeriad yn y ffilm, ac mae'n teimlo fod neges bwysig yn y cynhyrchiad wrth drafod iechyd meddwl dynion.

Dywedodd: "Ry' ni fel dynion, yn enwedig yng Nghymru, yn gweld hi yn anodd siarad am ein teimladau.

"Mae yn dod yn well. Ond ar y pryd yn y 90au doedd hi ddim yn hawdd siarad am bethe fel hyn."

Ychwanegodd: "Yn y ffilm ry' ni'n gweld mai dim just y cyffur ei hun sy'n helpu'r dynion, ond y siarad hefyd.

"Mae'r siarad yn gychwyn ar y gwella. Mae angen siarad."