Adran Dau: Wrecsam yn colli ond Casnewydd yn gyfartal

  • Cyhoeddwyd
Paul MullinFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r golled yn golygu bod Wrecsam wedi disgyn i'r 3ydd safle yn Adran Dau

Walsall 3-1 Wrecsam

Daeth rhediad diguro Wrecsam i ben wedi perfformiad a chanlyniad siomedig oddi cartref yn Walsall.

Y tîm cartref aeth ar y blaen wedi 16 o funudau yn dilyn gwaith gwych gan Jack Earing.

Fe basiodd Earing i draed yr ymosodwr Freddie Draper, a safodd yn gryf cyn taro'r bel yn ôl drwy goesa'r amddiffynnwr i gyfeiriad Earing a orffennodd y symudiad yn gampus.

Roedd Wrecsam yn gyfartal llai na deg munud yn ddiweddarach ar ôl i Paul Mullin lwyddo o'r smotyn.

Roedd y dyfarnwr o'r farn bod un o amddiffynwyr Walsall wedi rhwystro ergyd Mullin gyda'i law.

Daeth Luke Young yn agos at sgorio ail i'r Dreigiau naill ochr i hanner amser, ond roedd y chwaraewr canol cae yn wastraffus.

Wedi awr o'r gêm, y tîm cartref aeth ar y blaen wrth i Isaac Hutchinson sgorio o gic rydd.

Er i Phil Parkinson ddod a sawl eilydd i'r cae i geisio newid trywydd y gêm, fe lwyddodd Walsall i ymestyn eu mantais wrth i Hutchinson sgorio am yr eildro.

Mae'n golygu bod Wrecsam wedi disgyn i'r 3ydd safle yn Adran Dau.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Will Evans sgoriodd y gôl hollbwysig i Gasnewydd

Casnewydd 1-1 Crewe Alexandra

Fe lwyddodd Casnewydd i frwydro nôl i sicrhau pwynt gwerthfawr yn erbyn Crewe Alexandra yn Rodney Parade.

Fe aeth yr ymwelwyr ar y blaen yn fuan yn yr ail hanner ar ôl i Courtney Baker-Richardson ganfod lle ar yr asgell i groesi'r bêl ar draws y cwrt cosbi i gyfeiriad Chris Long.

Daeth Casnewydd yn gyfartal wedi ychydig dros awr o'r gêm wedi ei chwarae.

Yn dilyn gwaith da gan Shane McLoughlin, fe wyrodd y bêl i gyfeiriad Will Evans a ergydiodd yn gywir i gefn y rhwyd.

Cafodd y ddau dîm gyfleoedd i ennill y gêm ond fe orffennodd hi'n gyfartal 1-1.

Mae canlyniadau eraill yn golygu bod Casnewydd yn disgyn i'r 18fed safle yn y tabl.