Canlyniadau Caerdydd ac Abertawe yn y Bencampwriaeth
- Cyhoeddwyd

Liam Cullen yn dathlu ei gôl i Abertawe
Ennill oedd hanes Caerdydd ac Abertawe yng ngemau'r Bencampwriaeth ddydd Llun.
QPR 1-2 Caerdydd
Dwy gôl o giciau cornel enillodd y gêm i Gaerdydd yn Loftus Road.
Dimitrios Goumas oedd sgoriwr y gôl gyntaf - ei bedwaredd o'r tymor - cyn i Paul Smyth unioni'r sgôr ar ddechrau'r ail hanner i'r tîm cartref.
Rhwydodd Perry Ng i Gaerdydd wedi 74 munud gan sicrhau bod yr Adar Gleision yn codi i'r nawfed safle yn y Bencampwriaeth.
Abertawe 1-0 West Bromwich Albion
Roedd gôl Liam Cullen yn yr ail hanner yn ddigon i sicrhau buddugoliaeth bwysig i Abertawe yn erbyn un o geffylau blaen y Bencampwriaeth.
Wedi hanner cyntaf digon di-fflach, gwelwyd yr Elyrch yn chwarae'n llawer mwy pwrpasol yn yr ail hanner.
Hon oedd trydedd buddugoliaeth y tîm o Gymru yn eu saith gêm olaf o dan ofal eu rheolwr dros dro Alan Sheehan.
Mae Abertawe'n codi i'r unfed safle ar bymtheg wedi'r fuddugoliaeth.