Canlyniadau Adran Dau: Casnewydd a Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
Rhai o dim Wrecsam yn dathluFfynhonnell y llun, Rex Features

Buddugoliaeth dda i Wrecsam o 4-1 tra bod Casnewydd wedi cael gêm gyfartal.

Wrecsam 4-1 Barrow

Cafodd Wrecsam fuddugoliaeth dda o 4-1 gartref yn erbyn Barrow a oedd un safle yn is na'r tîm o Gymru ar ddechrau'r gêm.

Aeth yr ymwelwyr ar y blaen yn y funud gyntaf yn dilyn gôl gan eu chwaraewr canol cae, Spence.

Bu'n rhaid i Wrecsam aros tan ddiwedd yr hanner cyn iddynt unioni'r sgôr gan ychwanegu dwy gôl bellach mewn cyfnod o bedair munud. Fletcher (2) a Mullin oedd y sgorwyr.

Sgoriodd Fletcher ei drydedd gôl o'r gêm wedi 67 munud gan sicrhau bod Wrecsam yn codi i'r trydydd safle yn yr Ail Adran, dau bwynt yn unig y tu ôl i Stockport sydd ar y brig.

Sutton United 1-1 Casnewydd

Gêm gyfartal gafodd Casnewydd a hynny yn erbyn y tîm a oedd isaf ond un yn yr Ail Adran.

Roedd hi'n ddi-sgôr ar yr egwyl cyn i McClouchlin sgorio i'r ymwelwyr wedi 79 munud.

Tarodd Sutton yn ôl ym munudau olaf y gêm gyda Fadahunsi'n sgorio i'r tîm cartref.

Mae Casnewydd yn parhau yn y deunawfed safle yn sgil y canlyniad hwn.