Yr hwyliwr Richard Tudor o Bwllheli wedi marw yn 64 oed

  • Cyhoeddwyd
Richard TudorFfynhonnell y llun, Clwb Hwylio Pwllheli
Disgrifiad o’r llun,

Mae teyrngedau wedi'u rhoi i Richard Tudor - "llysgennad gwych i Bwllheli" a "seren y byd hwylio"

Mae'r pencampwr llywio cychod hwylio, Richard Tudor, wedi marw yn 64 oed.

Yn enedigol o Landrindod ond wedi ei fagu ger y môr ym Mhwllheli, roedd yn fwyaf adnabyddus am gwblhau dwy ras hwylio o amgylch y byd.

Sefydlodd ei gwmni ei hun yn gwneud hwyliau a gorchuddion i gychod ar ôl gadael yr ysgol yn 17 oed.

Bu'n rhedeg y busnes am 20 mlynedd cyn penderfynu derbyn gwahoddiad yn 1992 i fod yn gapten ar gwch oedd am geisio cwblhau'r Global Challenge.

Ar fwrdd 'British Steel II', mewn mordaith arwrol yn wynebu gwyntoedd dychrynllyd Cefnfor y De, fe lwyddon nhw i lanio'n ôl yn Southampton yn drydydd yn y ras.

Cafodd ei ddewis eilwaith i gapteinio'r 'Nuclear Electric' yn 1996-7, gan unwaith eto ddychwelyd yn llwyddiannus.

Yn 2000 fe gychwynnodd ar ei drydedd daith o amgylch y byd gyda thîm Philips, ond y tro hwn fe fethodd â'i chwblhau wrth i'r cwch ddechrau dod yn ddarnau.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Richard Tudor ei ddewis i hwylio'r 'Nuclear Electric' am yr eildro yn 1996-7

Bu hefyd yn un o drefnwyr Regatta Cymru ym Mae Ceredigion a bu'n ddarlithydd peirianneg yng Ngholeg Meirion Dwyfor.

Yn ôl Mark H Thompson, comodor Clwb Hwylio Pwllheli, roedd Richard Tudor yn ffigwr allweddol yn hanes y clwb.

Mewn datganiad dywedodd Mr Thompson: "Ar ran aelodau Clwb Hwylio Pwllheli rwyf wedi anfon ein cydymdeimlad dwysaf i Falmai a theulu'r Tuduriaid wedi marwolaeth Richard [ddydd Sul].

"Fe gafodd Richard, sydd wedi hwylio o amgylch y byd ac yn gyn-gomodor y clwb ac aelod gweithgar o'r pwyllgor, effaith mor anhygoel ar ein bywydau ni i gyd."

Disgrifiad o’r llun,

Er mai yn Llandrindod, Powys y cafodd ei eni, Pwllheli oedd cartref Richard Tudor

Ar y cyfryngau cymdeithasol dywedodd y Prifardd Meirion MacIntyre Huws bod clywed am farwolaeth Richard Tudor yn "newyddion dirdynnol".

"Mi roedd Richard yn arwr i mi. Mae gen i gwch hwylio ym Mhwllheli a braint oedd cael ei gwmni am sgwrs a chyngor. Dyn tawel a gyflawnodd gymaint yn ei faes.

"Gŵr bonheddig ac yn ysbrydoliaeth nid yn unig i bobl ifanc ond i hwyliwrs o bob oed ac o bob man," meddai.

Mae yna deyrnged hefyd gan yr Aelod Seneddol lleol, Liz Saville Roberts, a'i alwodd yn "seren y byd hwylio".

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Liz Saville Roberts

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Liz Saville Roberts

Dywedodd Maer Pwllheli, y Cynghorydd Mike Parry, wrth Cymru Fyw fod Richard Tudor wedi bod yn "llysgennad gwych i'r dref".

"Dwi'n nabod Richard ers 1977 pan ddois i Bwllheli ac mae wedi bod yn ysbrydoliaeth dros y blynyddoedd i gymaint o bobl ifanc.

"Mae'n drist iawn i'r teulu ac i Bwllheli, ond fe lwyddodd i roi Pwllheli ar y map ac mae fy nghydymdeimlad yn fawr gyda'r teulu."

'Ffrind mawr'

Dywedodd ffrind i'r teulu, Gwyndaf Williams, a oedd yn gyfrifol am adran iau clwb hwylio Pwllheli, ei fod wedi dod yn ymwybodol o sgiliau hwylio Richard Tudor pan oedd o'n ddisgybl yn Ysgol Glan y Môr, lle fu Mr Williams yn dysgu.

"O'n i'n rhedeg clwb hwylio yn yr ysgol ac roedd yn amlwg fod Richard yn hwyliwr addawol iawn," meddai ar raglen Post Prynhawn Radio Cymru.

"Aeth ymlaen i gystadlu mewn cystadlaethau ysgolion Cymru, a dros y wlad i gyd.

"Roedd yn ffrind mawr i mi. Disgybl gyntaf, ond wedyn yn ffrind.

"Mi fyddan ni'n hwylio o Bwllheli i Iwerddon neu fyny i'r Alban, gyda Richard fel y prif ddyn wrth y llyw.

"Oeddan ni yn cymryd tro wrth y llyw, ond rhyw 10 munud oeddan ni yn medru sefyll yno. Fysa Richard yn medru sefyll yna am awr, awr a hanner. O'dd o lot fwy proffesiynol na gweddill y criw."

Pynciau cysylltiedig