Cymro Cymraeg i gynrychioli Awstralia yng Nghwpan Asia
- Cyhoeddwyd
Mae Cymro Cymraeg a fagwyd yng Ngwynedd wedi ei gynnwys yng ngharfan Awstralia ar gyfer un o brif gystadlaethau Asia.
Er iddo dyfu i fyny ym Mhorth y Gest ger Porthmadog, fe anwyd Gethin Jones yn ninas Perth yng ngorllewin Awstralia, ac mae wedi dewis cynrychioli'r wlad honno ar y llwyfan cenedlaethol.
Bellach yn chwarae i Bolton Wanderers yn Adran Un, mae'r amddiffynnwr 28 oed eisoes wedi ennill capiau i dimau ieuenctid Cymru.
Ond er iddo hyfforddi gyda thîm cyntaf Cymru yn 2016, nid yw wedi ennill cap llawn ac felly mae'n rhydd i newid ei wlad gofrestredig.
Mae'n bosib y bydd Jones yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf i Awstralia mewn gêm gyfeillgar yn erbyn Bahrain ddydd Sadwrn.
Fis Ebrill y llynedd fe sgoriodd un o'r goliau wrth i Bolton sicrhau Tlws y Gynghrair EFL yn Wembley trwy drechu Plymouth o 4-0.
Mewn cyfweliad sydd wedi ei gyhoeddi ar wefan Cymdeithas Bêl-droed Awstralia dywedodd: "Dw i wastad wedi caru Awstralia, yn amlwg, ces i fy ngeni yn Perth, wedi byw yno tra'n ifanc ac yna penderfynodd y teulu symud nôl i Gymru.
"Mae hi wastad wedi bod yng nghefn fy meddwl i gynrychioli fy ngwlad enedigol, ac yna cyn gynted a ges i'r alwad ffôn yn gofyn i mi chwarae i Awstralia, ro'n i wrth fy modd, a dyna oedd y penderfyniad iawn i fi.
"Roedd yn rhywbeth ro'n i'n falch iawn dweud wrth fy nheulu - fy mod wedi cael yr alwad i gynrychioli Awstralia."
Awstralia fydd un o'r ffefrynnau i godi Cwpan Asia, gan wynebu gwledydd fel Japan, Saudi Arabia a De Corea.
Mae'r gystadleuaeth yn dechrau ar 12 Ionawr, gyda'r Socceroos yn wynebu India yn eu gêm grŵp gyntaf y diwrnod canlynol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Chwefror 2023