Dau ddyn yn y llys ar ôl llofruddiaeth Conall Evans

  • Cyhoeddwyd
Conall EvansFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd teulu Conall Evans ei fod yn "fab, brawd ac aelod arbennig o'r teulu"

Mae dau ddyn wedi ymddangos yn y llys ar gyhuddiad o lofruddio dyn a gafodd ei ganfod y tu allan i ysbyty yn Rhondda Cynon Taf ddydd Calan.

Bu farw Conall Evans, 30 oed o ardal Pentre, wedi ymosodiad yn Nhonypandy ar 1 Ionawr.

Fe ymddangosodd Ashley Davies, sy'n 30 oed ac yn dod o Bentre, a Dewi Morgan, sy'n 24 oed ac yn dod o Drealaw, o flaen Llys Ynadon Merthyr Tudful ddydd Iau.

Mewn gwrandawiadau ar wahân, cafodd y ddau eu cyhuddo o lofruddiaeth a bod ag eitem finiog yn eu meddiant yn gyhoeddus heb reswm teilwng.

Mae'r ddau ddyn wedi'u cyhuddo ar y cyd o lofruddio Conall Evans ar Heol Dinas ar 1 Ionawr.

Dim ond i gadarnhau eu henwau, dyddiadau geni a chyfeiriadau y gwnaethon nhw siarad.

Bydd yr achos nesaf yn llys y goron ar 5 Ionawr, ac nid oedd cais am fechnïaeth.

Pynciau cysylltiedig