Cyhuddo dau ddyn ar ôl llofruddiaeth 'mab a brawd arbennig'

  • Cyhoeddwyd
Conall EvansFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Conall Evans wedi ymosodiad yn Nhonypandy ar 1 Ionawr

Mae Heddlu'r De wedi cyhoeddi enw dyn 30 oed fu farw yn dilyn ymosodiad yn Rhondda Cynon Taf ddydd Calan.

Roedd Conall Evans yn 30 oed ac yn dod o Pentre.

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw fore Llun yn dilyn adroddiadau bod dyn ag anafiadau difrifol y tu allan i faes parcio Ysbyty Cwm Rhondda, Tonypandy.

Bu farw Mr Evans o'i anafiadau ac mae dau ddyn bellach wedi eu cyhuddo o'i lofruddio.

Mae disgwyl i Ashley Davies, sy'n 30 oed ac yn dod o Pentre, a Dewi Morgan, sy'n 24 oed ac yn dod o Donypandy, i ymddangos o flaen Llys Ynadon Merthyr Tudful ddydd Iau.

Dywedodd teulu Mr Evans mewn datganiad ei fod yn "fab, brawd ac aelod arbennig o'r teulu" ac y byddai "colled enfawr ar ei ôl".

Mae'r heddlu'n dal i alw ar unrhyw un sydd â gwybodaeth allai fod o ddefnydd i'r ymchwiliad i gysylltu â nhw.

Pynciau cysylltiedig