Pa mor aml ddylai biniau du gael eu casglu?
- Cyhoeddwyd
Mae Cyngor Caerdydd wedi cyhoeddi yr wythnos hon eu bod yn edrych ar gynlluniau i gasglu bagiau du bob tair wythnos - yn lle bob pythefnos - mewn ymgais i arbed arian.
Er nad yw'r newid posib yn debygol o fod yn un poblogaidd yn y brifddinas, mae sawl sir arall yng Nghymru eisoes wedi cymryd y cam.
Allan o 22 awdurdod lleol, mae 10 yn casglu gwastraff cyffredinol bob tair wythnos, 11 bob pythefnos, ac un - Cyngor Conwy - yn casglu unwaith y mis.
Mae'r rhan fwyaf o'r cynghorau wedi dweud wrth Cymru Fyw nad oes bwriad i ail edrych ar eu system casglu sbwriel yn y dyfodol agos.
Ym mis Mawrth y llynedd, dechreuodd Cyngor Torfaen drafod cynlluniau i gasglu sbwriel bob tair neu bedair wythnos - cynlluniau a gafodd eu trafod yno bron i 10 mlynedd yn ôl.
Er hynny, fe wnaeth y cyngor fabwysiadu dull amgen ym mis Ebrill o addysgu ac ymgysylltu i geisio "newid ymddygiad y cyhoedd a'u hannog i ailgylchu yn fwy aml" yn hytrach na newid amlder y casglu.
Mae Cyngor Dinas Caerdydd - fel pob cyngor sir arall - yn wynebu heriau ariannol enfawr ar hyn o bryd.
Maen nhw wedi cyhoeddi eu bod yn wynebu bwlch o £30m yn eu cyllideb wedi'r setliad ariannol dros dro a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru fis Rhagfyr.
Mae'r cyngor hefyd yn cynnig cynyddu taliadau parcio ceir, codi tâl am gasglu gwastraff gardd a chynyddu cost prydau ysgol i arbed arian.
Yn y cyfamser, mae Cyngor Caerdydd hefyd yn ystyried cael gwared ar 3,000 o finiau cyhoeddus a lleihau'r gwaith glanhau ar y strydoedd - cynlluniau a fyddai'n arbed dros £1m o'r £6.25m sy'n cael wario'n flynyddol, meddai'r cyngor.
Bydd y cynigion hyn yn cael eu cyflwyno fel rhan o ymgynghoriad cyhoeddus - y pwysicaf maen nhw erioed wedi gorfod gwneud, meddai'r cyngor - sy'n dechrau ddydd Llun.
Ond i rai sy'n byw yn ardal y Waun Ddyfal, neu Cathays, gyda'r sbwriel yn gorchuddio'r palmant yn wythnosol, mae gofid am effaith y newid posib ar yr ardal.
Dywedodd Betsan Elias, sy'n fyfyrwraig ail flwyddyn, fod "sefyllfa sbwriel Cathays yn ddigon gwael yn barod, gyda'r strydoedd yn afiach ar fore dydd Mercher gan fod cymaint o fagiau tu allan i dai pawb".
A hithau'n byw mewn tŷ ar gyfer wyth o fyfyrwyr, dywedodd: "Os byddai'r holl fagiau sbwriel yn gorfod eistedd yn yr ardd am dair wythnos byddai'r bagiau i gyd wedi eu rhwygo gan lygod."
Dywedodd Millie Stacey sydd hefyd yn fyfyrwraig ac yn byw yn ardal Mynydd Bychan (Heath): "Yn bersonol, byse well gen i fod y cyngor yn cynyddu pris parcio gan fod yn eithaf haws teithio ar draws Caerdydd gyda thrafnidiaeth gyhoeddus.
"Dwi'n byw adre ac mae'n hawdd cyrraedd prifysgol a phopeth dwi angen gan ddefnyddio trên a bysiau.
"Dwi'n credu bod newid casglu'r bins i bob tair wythnos yn mynd i achosi lot mwy o sbwriel ac achosi ardaloedd i ddod yn llawer mwy blêr.
"Dwi'n meddwl bydd mwy o bobl yn anhapus gyda newid yn amserlen y bins na phris parcio."
Y sefyllfa yn genedlaethol
Mae'r cynghorau canlynol eisoes yn casglu gwastraff bob tair wythnos yn hytrach na phob pythefnos:
Blaenau Gwent
Bro Morgannwg
Casnewydd
Ceredigion
Gwynedd
Powys
Rhondda Cynon Taf
Sir Benfro
Sir Gaerfyrddin
Ynys Môn
Mae'r siroedd canlynol yn casglu sbwriel fesul pythefnos:
Abertawe
Caerdydd
Caerffili
Castell Nedd Port-Talbot
Merthyr Tudful
Pen-y-bont ar Ogwr
Sir Ddinbych
Sir Fynwy
Sir y Fflint
Torfaen
Wrecsam
Cynllun Sir Conwy yn 'llwyddiant'
Conwy yw'r unig sir yng Nghymru sy'n casglu gwastraff fesul pedair wythnos, a hynny ers 2018.
Yn ôl un cynghorydd, mae hyn wedi bod yn "llwyddiant" ac wedi annog mwy o bobl i ailgylchu.
Dywedodd y Cynghorydd Goronwy Edwards, Aelod Cabinet yr Amgylchedd, Ffyrdd a Chyfleusterau: "Ers [2018] rydym yn casglu 31% yn llai o wastraff bin du ac mae cyfraddau ailgylchu wedi cynyddu. Mae ailgylchu bwyd wedi cynyddu 30%.
"Yn wir, mae preswylwyr Conwy yn ailgylchu 69% o'u gwastraff yn barod. Targed Llywodraeth Cymru yw 70% erbyn 2024/25.
"Yn sicr [mae wedi bod o fudd i'r gymuned] ac mae wedi bod yn arbediad ariannol i ni sy'n golygu fod 'na fwy o arian i wario mewn llefydd eraill."
Ychwanegodd ei fod yn "llwyddiant cyn belled â torri y maint o wastraff sy'n mynd" ac yn "faintais i ni fel rhan o gynllun torri lawr ar ôl-troed carbon".
"Mae pobl nad oeddent yn ailgylchu o gwbl ar un adeg erbyn hyn yn gwneud hynny [ac] mae pobl oedd yn ailgylchu'n barod yn awr yn ailgylchu mwy."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd19 Tachwedd 2023