Y gyllideb: Cynghorau Cymru i wynebu ‘penderfyniadau anodd’
- Cyhoeddwyd
Mae cynghorau Cymru yn disgwyl cyhoeddiad am eu setliad ariannol ddydd Mercher.
Er y cynnydd bychan yn eu cyllid craidd yng nghyllideb Llywodraeth Cymru, mae'r Gweinidog Cyllid Rebecca Evans wedi rhybuddio bod penderfyniadau anodd yn wynebu cynghorau Cymru.
Cafodd manylion y gyllideb, sydd werth dros £22bn, eu cyhoeddi yn y Senedd brynhawn Mawrth.
Dydd Mercher bydd y 22 o awdurdodau lleol yng Nghymru yn darganfod beth fydd eu setliadau unigol.
'Wedi mynd mor bell ac y gallwn ni'
Dywedodd Rebecca Evans: "Rydym wedi gweithio yn galed iawn i ailffocysu ac ail-flaenoriaethu ein gwariant ar y meysydd sydd bwysicaf i bobl yng Nghymru - y GIG a llywodraeth leol.
"Ond hyd yn oed gyda'r £450m ychwanegol i wasanaethau iechyd a'r cynnydd o 3.1% i'r setliad llywodraeth leol, rydym yn gwybod bod penderfyniadau anodd i'r gwasanaethau hynny i'w gwneud hefyd.
"Wedi dweud hynny, rwy'n credu ein bod wedi mynd mor bell ac y gallwn ni yn nhermau ail-flaenoriaethu ar draws y llywodraeth."
Roedd y cynnydd o 3.1% yn unol â'r hyn yr oedd cynghorau'n ei ddisgwyl, ac roedden nhw eisoes wedi rhybuddio y gallai arwain at doriadau i wasanaethau, colli swyddi a chynnydd yn nhreth y cyngor.
Yn ôl Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, mae'r cynghorau yn wynebu bwlch ariannol o £432m.
Dywedodd eu llefarydd cyllid, y Cynghorydd Anthony Hunt, y byddai'n rhaid i "benderfyniadau anodd" gael eu gwneud i gydbwyso'r llyfrau.
Rhybuddiodd bod yr effaith ar gymunedau a gwasanaethau fel ysgolion a gofal cymdeithasol yn debygol o fod yn "ddifrifol".
Y dyfodol yn 'edrych yn llwm iawn'
Mae un arweinydd cyngor yn rhybuddio y bydd yr amser yn dod i gynghorau gyhoeddi nad oes modd iddyn nhw osod cyllideb o gwbl.
Dywedodd Dyfrig Siencyn, arweinydd Cyngor Gwynedd: "Mae'r amser yn nesáu yn gyflym lle fydd rhaid i gynghorau benderfynu gwneud toriadau hyll dydyn nhw ddim yn dymuno gwneud i wasanaethau sy'n hanfodol i bobl.
"Ma' 'na sôn wedi bod ers tro am fethu gosod cyllideb ond rhywsut neu'i gilydd 'ma pawb wedi gwneud hynny.
"Mae'r toriadau neu'r bwlch ariannol 'dan ni'n wynebu eleni yn fwy na 'dan ni wedi gweld ers degawd.
"Mae'r blynyddoedd sydd o'n blaenau ni yn edrych yn llwm iawn."
Ychwanegodd o ran Cyngor Gwynedd ei fod yn "hyderus fyddwn ni'n gallu dygymod a gosod cyllideb eleni".
"Ma' 'na doriadau i wasanaethau ac rydyn ni wedi gwneud pob ymdrech i amddiffyn y gwasanaethau hynny sydd yn ymwneud â gofalu am ein pobl ni - rhai sydd methu edrych ar ôl eu hunain - rheiny fyddwn ni'n gwarchod gyntaf.
"Y darogan ar hyn o bryd ydi y bydd y sefyllfa ariannol am y ddwy flynedd nesa' yn waeth nag eleni, ac os fydd hynny yn wir mi fydd rhaid i ni eistedd lawr i gynllunio a rhoi ystyriaeth ddifrifol i ba wasanaethau fedrwn ni eu hepgor yn llwyr neu dynnu lawr o safbwynt safon y ddarpariaeth.
"Dwi'n meddwl fydd rhaid i bob awdurdod lleol edrych ar beth ydi eu pwrpas craidd nhw, achos fyddwn ni methu gwneud y pethau 'dan ni wedi bod yn gwneud dros y degawd neu 20 mlynedd ddiwethaf.
"Y gwirionedd ydi, does 'na ddim un gwasanaeth yn ddiogel bellach. 'Dan ni wedi dibynnu yn helaeth ar y sector gwirfoddol a trydydd sector dros y blynyddoedd.
"Mi fydd 'na bwysau arnyn nhw rŵan oherwydd dydyn ni methu ariannu nhw fel y byddwn ni'n dymuno."
Mae'r straen ariannol hwnnw i'w weld yn barod yn Sir Ddinbych, wrth i gabinet y cyngor bleidleisio o blaid penderfyniad dadleuol i gwtogi oriau agor llyfrgelloedd a gwasanaethau siop-un-stop o 40%.
Fe dderbyniodd yr ymgynghoriad 4,600 o ymatebion - gan dorri record - bron i 5% o boblogaeth y sir.
Roedd 96% o'r ymatebion yn erbyn y cynigion.
Roedd yr ymgynghoriad yn cynnig gostyngiad o 50% yn yr oriau agor, ond ar ôl ystyried yr ymatebion fe benderfynodd y cabinet newid y gostyngiad i 40%.
Dywedodd y Cynghorydd Emrys Wynne, prif aelod y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth, fod y cynnig wedi ei gyflwyno gyda "chalon drom", ond bod cwtogi oriau yn "decach na chau llyfrgelloedd yn gyfan gwbl".
"Fel cabinet rydym yn drist bod yn rhaid i ni ystyried lleihau gwasanaethau rheng flaen, ond dyma realiti llym yr hinsawdd economaidd bresennol," meddai.
"Dyma'r adroddiad anoddaf i mi ei gyflwyno erioed."
Arbed dros £300,000
Mae gan Gyngor Sir Ddinbych fwlch o dros £20m yn ei gyllideb, a bydd y newid yma yn arbed dros £300,000 i'r cyngor.
Dywedodd yr aelod cabinet dros Gyllid, y Cynghorydd Gwyneth Ellis, ei bod hefyd yn cefnogi'r penderfyniad gyda "chalon drom" ond ei bod yn gobeithio y bydd y cyngor yn gallu cynnig gwasanaethau llawn unwaith eto yn y dyfodol.
Bydd y cyngor yn cyfarfod â staff ac undebau llafur i ymgynghori'n llawn.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd19 Tachwedd 2023
- Cyhoeddwyd25 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd23 Awst 2023