Galw am fwy o adnoddau addysg HIV mewn ysgolion

  • Cyhoeddwyd
Neil
Disgrifiad o’r llun,

Mae Neil, o Gaerfyrddin, yn byw gyda HIV

Cafodd Neil, 42, o Gaerfyrddin, sioc pan gafodd ddiagnosis HIV ym mis Rhagfyr 2022.

Nawr ychydig dros flwyddyn yn ddiweddarach mae Neil yn ystyried sut fyddai modd gwella profiadau pobl o fyw gyda HIV yng Nghymru.

Dywed y cyn swyddog carchar fod ei addysg ar HIV wedi dod diolch i'w hyfforddiant ar gyfer gwaith yn hytrach na'i addysg yn yr 1980au a'r 90au.

"Roedd 'na stigma o'i gwmpas flynyddoedd yn ôl," meddai. "Doedd dim meddyginiaeth.

"Mae gwyddoniaeth wedi dod mor bell nawr fel y gallwn ni symud ymlaen â'n bywydau."

Dywed ei fod yn gobeithio bod y stigma am HIV yn lleihau ac y bydd disgyblion yn 2024 yn cael profiad gwell.

Gyda lansiad Cynllun Gweithredu Cymru ar HIV yn 2023, Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i addo dod ag achosion newydd o HIV i ben erbyn 2030.

Cynigir adnoddau addysg rhyw i ysgolion yng Nghymru trwy becyn cymorth Llywodraeth Cymru a Hwb.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ymgyrchoedd wedi ceisio codi ymwybyddiaeth am brofion HIV

Ond nid yw adnoddau cwricwlwm ar gyfer ysgolion sy'n mynd i'r afael â HIV, y cyffur PrEP a stigma wedi'u datblygu eto.

Mae'n ofynnol i ddeunyddiau addysg ychwanegol sy'n cael eu defnyddio gan ysgolion fod yn cydymffurfio â Chod Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb Llywodraeth Cymru - sy'n golygu bod yn rhaid iddynt fod yn briodol i'r cyfnod addysg ac yn rhan o ddull lluosog.

Beth yw HIV?

Mae HIV yn dalfyriad am Human Immunodeficiency Virus - haint sy'n gwanhau'r system imiwnedd.

Os nad yw'n cael ei drin, fe allai'r haint arwain at HIV hwyr neu AIDs, sef yr enw ar gyfres o glefydau y mae HIV yn eu hachosi.

Ond bellach mae cyffuriau effeithiol sydd yn caniatáu i'r mwyafrif o bobl fyw bywydau hir ac iachus gyda HIV.

Mae meddyginiaeth bellach yn medru lleihau'r HIV i lefel mor isel fel nad oes modd i berson ei drosglwyddo.

Ffynonellau: Terrence Higgins Trust, dolen allanol a'r GIG, dolen allanol.

'Dylai pawb fod yn ymwybodol'

Dywedodd Ash Lister, cynghorydd sir yng Nghaerdydd a Chadeirydd Fast Track Caerdydd a'r Fro - sy'n rhedeg ymgyrchoedd addysg HIV - iddo hyfforddi ei hun mewn addysg rhyw ar ôl gadael yr ysgol yn sgil diffyg addysg am y pwnc.

"Y cyfan y gallaf ei gofio o'r ysgol yw sgyrsiau am feichiogrwydd ac atal cenhedlu.

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Ash Lister gallai stigma atal pobl rhag dysgu am HIV a phrofi am y firws

"Pan yn myfyrio ar fy ngwybodaeth a dealltwriaeth nid oedd unrhyw drafodaethau o gwmpas HIV. Roedd yn sylfaenol iawn."

Dywedodd Ash ei fod yn poeni na fydd athrawon presennol, sydd wedi derbyn yr un lefel o wybodaeth yn ystod eu dyddiau ysgol, yn teimlo'n gyfforddus yn creu adnoddau ychwanegol ar gyfer gwersi addysg rhyw.

"Os nad ydych chi wedi cael hynny eich hun yna dydych chi ddim yn mynd i deimlo'n hyderus wrth ei wneud."

Dywedodd y gallai stigma atal pobl rhag dysgu am HIV a phrofi am y firws.

"Dylai ymwybyddiaeth gyrraedd pawb. Nid yw'n fater sy'n effeithio ar un rhan arbennig o gymdeithas nac un gymuned o bobl."

'Athrawon yn nerfus'

Mae rhai sefydliadau fel Brook, y gall ysgolion eu comisiynu i ddatblygu eu hadnoddau addysg cydberthynas a rhywioldeb, yn dweud nad yw'r pecyn cymorth bob amser yn ddigon.

Yn ôl Kelly Harris o'r sefydliad, mae cyflwyno gwersi addysg cydberthynas a rhywioldeb yn bwysau ychwanegol ar lwyth gwaith staff addysgol, ac mae'n pryderu efallai na fydd staff yn cynnwys gwybodaeth nad ydynt yn gwybod sut i'w ddysgu.

Disgrifiad o’r llun,

Kelly Harris: "Mae hyn yn ychwanegiad at waith athrawon"

"Nid yw addysg cydberthynas a rhywioldeb yn bwnc dysgu ar ei ben ei hun i athrawon, fel y gallwch chi hyfforddi i fod yn athro mathemateg neu'n athro daearyddiaeth," meddai.

"Rydym, o fewn y cod, yn gofyn iddynt siarad am atgenhedlu, glasoed, heintiau a drosglwyddir yn rhywiol a HIV. Efallai na fydd pobl o reidrwydd yn teimlo'n arbennig o wybodus.

"Oherwydd bod athrawon yn ofni adlach posib gan gymunedau neu bryder gan rieni am yr hyn sy'n cael ei ddysgu, mae pobl yn fwy nerfus am ei ddysgu.

"Yr her yw fod hyn yn ychwanegiad at waith athrawon."

'Gwell dyfnder a dealltwriaeth i'n plant'

Un ysgol sydd wedi gweithio gyda Brook i wella eu darpariaeth addysg rhyw yw Ysgol Maes y Gwendraeth yn Llanelli.

Dywedodd y Pennaeth, Alwyn Thomas, fod addysg cydberthynas a rhywioldeb yn bwnc heriol i'w gyflwyno, ond fod adborth cadarnhaol wedi bod i wersi - gwersi sydd wedi defnyddio adnoddau Brook i adeiladu ar becyn cymorth Llywodraeth Cymru.

"Mae adnoddau Brook yn rhoi gwell dyfnder a dealltwriaeth i'n plant i wneud dewisiadau gwybodus.

"Mae'n cynnig dimensiwn deinamig sydd mor bwysig i'r cwricwlwm, un sy'n cyfoethogi ein cwricwlwm ein hunain - ac mae hynny mor bwysig."

Disgrifiad o’r llun,

Alwyn Thomas: "Mae'n cynnig dimensiwn deinamig sydd mor bwysig i'r cwricwlwm"

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae addysg cydberthynas a rhywioldeb yn orfodol i bob disgybl ac yn helpu dysgwyr i ddeall achosion, symptomau ac effeithiau HIV.

"Byddwn yn datblygu adnoddau cwricwlwm yn fuan ar gyfer ysgolion sy'n mynd i'r afael â HIV, PrEP a stigma.

"Dylai pawb sy'n byw gyda HIV gael eu cefnogi i ddiwallu eu hanghenion heb unrhyw stigma yn gysylltiedig â'u diagnosis, gan gynnwys y rhai mewn ysgolion."

'Ewch i gael eich profi'

Mae Neil wedi annog pobl i gael mynediad at wasanaethau profi Cymru.

"Ewch i gael eich profi. Ewch i'r clinigau. Ewch i gael y profion ar-lein."

Yng Nghymru, mae pecynnau profi HIV yn y cartref ar gael drwy'r post.

Maen nhw'n cael eu danfon mewn modd fel "does dim angen i neb wybod eich bod chi wedi bod yn unman," ychwanegodd Neil.

Dywedodd y bydd siarad allan hefyd yn lleihau stigma yng Nghymru.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

"Rydych chi bob amser yn meddwl nad ydych chi'n mynd i gael y gefnogaeth yna oherwydd y stigma o'i gwmpas - ond peidiwch â bod yn swil ohono," meddai.

Mae nifer y rhai sy'n cael diagnosis HIV newydd yng Nghymru wedi bod yn gostwng yn cyffredinol dros y degawd diwethaf, heblaw am gynnydd bychan yn 2018 ac un yn dilyn cyfyngiadau symud Covid-19 yn 2022.

Fodd bynnag, dangosodd data'r llywodraeth ym mis Tachwedd fod y rhan fwyaf o bobl a gafodd ddiagnosis o HIV yng Nghymru ers 2013 wedi nodi rhyw fel yr achos tebygol.

Yn fwyaf diweddar yn 2021 a 2022, roedd nifer y bobl a nododd fod rhyw rhwng dynion a menywod fel achos tebygol o HIV yn uwch nag unrhyw gategori amlygiad arall am y tro cyntaf ers i ddiagnosis gael ei gofnodi.

'Canfyddiadau cadarnhaol'

Yn ddiweddar fe lansiwyd gwaith ymchwil gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ar HIV a'r ymwybyddiaeth ohono yng Nghymru fel rhan o'u harolwg 'Amser i Siarad'.

Dywedodd yr ymchwilydd Dr Catherine Sharp bod y canfyddiadau yn "gadarnhaol iawn".

Tynnodd sylw at y ffaith bod 84% o'r 1,094 o ymatebwyr wedi dweud y byddent yn siarad â gweithiwr gofal iechyd proffesiynol am HIV pe baent yn teimlo bod angen iddynt wneud hynny.

"Mae'n dangos agwedd a pharodrwydd i gael sgyrsiau am brofi a thrin HIV."

Ac eto, roedd cydnabyddiaeth nad yw'r data'n dangos yn union sut y gall pobl deimlo wrth siarad am HIV.

"Byddai'n bwysig i ddeall pa mor hyderus y mae pobl yn teimlo i fynd i gael y sgyrsiau hyn, ac ni allwn ddeall hynny o'r set ddata bresennol hon," ychwanegodd.

"Byddwn yn defnyddio'r canfyddiadau hyn i lywio ein gwaith a'r camau nesaf a wnawn yma yn Iechyd Cyhoeddus Cymru."

Pynciau cysylltiedig