Y newyddiadurwr Vaughan Hughes wedi marw yn 76 oed
- Cyhoeddwyd
![Vaughan Hughes](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/EB98/production/_132221306_117a6083-a9fb-4a6a-9fcc-62a032b3d3b8.jpg)
Vaughan Hughes yn ei gadwyn seremonïol ar ôl cael ei ethol yn Gadeirydd Cyngor Sir Ynys Môn yn 2014
Mae'r darlledwr, cyflwynydd, cynhyrchydd teledu a chynghorydd Vaughan Hughes wedi marw yn 76 oed.
Daeth i amlygrwydd yn y 1970au fel un o ohebwyr newyddion rhaglen nosweithiol HTV, Y Dydd, a ddaeth i ben gyda dyfodiad S4C.
Aeth ymlaen i gyflwyno nifer o raglenni eraill ac i fyd cynhyrchu ar ôl sefydlu cwmni teledu Ffilmiau'r Bont.
Hyd at ei farwolaeth, roedd yn gyd-olygydd ar y cylchgrawn Barn.
Mewn neges ar Facebook, dywedodd ei ferch, yr AS Plaid Cymru Heledd Fychan y bydd colled "aruthrol" ar ei ôl.
Tad 'cariadus a chefnogol'
Ysgrifennodd Ms Fychan: "Er ei fod yn wael, fe ddaeth y diwedd yn annisgwyl o sydyn gyda Dad dal i weithio ar y rhifyn nesaf o Barn ddoe ac yn mwydro gyda fi tan yn hwyr neithiwr.
"Mi wna'i drysori'r ffaith mai ein geiriau olaf wrth i ni ffarwelio neithiwr oedd ein bod ni'n caru'n gilydd.
"Roedd yn Dad cariadus a chefnogol imi ar hyd fy mywyd, ac wedi gwirioni'n lân bod yn Daid i Twm. Mi wnawn ni ei golli'n aruthrol.
"Bydd gymaint mwy i'w ddweud amdano eto... ond am rŵan, diolch i bawb fu'n ffrind i Dad drwy ei fywyd.
"A diolch i Dad am bopeth."
Fe ychwanegodd mewn neges ar X: "I nifer o bobl ledled Cymru, roedd o'n wyneb a llais cyfarwydd am ddegawdau, ac rydym yn eithriadol o falch o'r cyfraniad pwysig wnaeth o gydol ei oes."
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Fe gafodd ei eni yn Ynys Môn, ei addysgu yn Ysgol Gyfun Llangefni ac fe weithiodd fel newyddiadurwr yng Ngwynedd cyn ymuno â HTV.
Wedi diwedd rhaglen Y Dydd, aeth ymlaen i gyflwyno'r rhaglen materion cyfoes Y Byd Yn Ei Le yn y 1980au, a'r rhaglen sgwrsio O Vaughan i Fynwy rhwng 1987 ac 1991.
Fel un o sylfaenwyr a pherchnogion y cwmni teledu annibynnol Ffilmiau'r Bont, fe fu'n darparu a sgriptio nifer o gyfresi teledu'n adrodd hanes Cymru.
Fe gyflwynodd gyfresi ar Radio Cymru - Blewyn o Drwyn a'r rhaglen foreuol Heddiw.
Yn 2014, fe gyhoeddodd y gyfrol Cymru Fawr - Pan oedd Gwlad Fach yn Arwain y Byd, ac roedd hefyd yn adolygydd llyfrau.
Dywedodd yr Eisteddfod Genedlaethol: "Heno rydyn ni'n cofio am Vaughan Hughes ac yn diolch am ei gyfraniad fel aelod ffyddlon o bwyllgor llenyddiaeth Eisteddfod Rhondda Cynon Taf, gan anfon ein cydymdeimladau dwysaf at Angharad, Heledd, y teulu a'u ffrindiau yn ystod y cyfnod anodd hwn."
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
'Gadael gwaddol sylweddol'
Ar wahân i gyfnod o 10 mlynedd yn gweithio yng Nghaerdydd gyda HTV, fe dreuliodd y rhan fwyaf o'i fywyd ym Môn.
Yn 2012 fe gafodd ei ethol fel cynghorydd Plaid Cymru ar Gyngor Sir Ynys Môn, gan gynrychioli ward Llanbedrgoch - ward Lligwy erbyn hyn - tan 2022.
Dywedodd Rhun ap Iorwerth, AS Ynys Môn ac arweinydd Plaid Cymru: "Mae Vaughan yn gadael gwaddol sylweddol ar ei ôl.
"Fel newyddiadurwr, darlledwr a golygydd bu'n ffigwr dylanwadol ym myd materion cyfoes Cymreig am ddegawdau. Ac fel Cynghorydd Sir Plaid Cymru yn Ynys Môn sicrhaodd ei fod yn gallu ddefnyddio'i brofiad helaeth o weithio ar lwyfannau cenedlaethol, er budd ei fro a Chymru."
Gan gydymdeimlo gyda theulu ac anwyliaid Mr Hughes ar ran y blaid, dywedodd Mr ap Iorwerth eu bod yn "meddwl yn arbennig am ei ferch Heledd Fychan fel cyfaill ac aelod o grŵp y Blaid yn y Senedd".
Dywedodd arweinydd Cyngor Sir ynys Môn, Llinos Medi: "Roedd Vaughan yn ddyn oedd yn frwd dros y Gymraeg, yr ynys a thegwch cymdeithasol.
"Cafodd ddylanwad enfawr arnaf fel cynghorydd ifanc a fy'n annog i fod yn arweinydd. Bydd ei eiriau o anogaeth gyda mi am byth."