Y llygoden sy'n tacluso'r sied dros nos ers deufis
- Cyhoeddwyd
Mae dyn o'r canolbarth wedi cael syndod o sylweddoli pwy - neu beth - oedd yn gyfrifol am symud pethau o gwmpas ei sied dros nos.
Ar ôl crafu pen o sylwi bod pethau'n cael eu symud yn y sied dros gyfnod o ddau fis, fe osododd Rodney Holbrook, 75, gamera i weld a oedd modd datrys y dirgelwch.
Roedd y postmon wedi ymddeol o Lanfair-ym-Muallt methu â chreu'r hyn a welodd, sef llygoden fach yn clirio eitemau oedd wedi eu gadael ar ôl iddo wneud tasgau'r cartref, ac yn eu gosod yn daclus mewn bocs.
Mae'n bosib i'w gweld yn codi pethau fel pegiau dillad a sgriwdreifar a'u gosod mewn pot yng nghanol y bwrdd.
"Mae wedi bod yn mynd ymlaen ers rhyw ddeufis," dywedodd Mr Holbrook.
"I ddechrau wnes i sylwi bod bwys ro'n i'n ei roi i'r adar wedi eu rhoi mewn hen 'sgidiau ro'n i'n eu cadw yn y siec.
"Do'n i methu credu'r peth pan welais i taw'r llygoden oedd yn tacluso. Symudodd pob math o bethau i'r bocs - darnau plastig, nytiau a boltiau.
"Dydw i ddim yn trafferthu tacluso nawr, achos rwy'n gwybod neith e wneud e.
"Roedd yn wirioneddol ryfeddol i weld y lluniau."