Penodi Nia Bennett yn gadeirydd newydd yr Urdd
- Cyhoeddwyd
Mae Urdd Gobaith Cymru wedi penodi Nia Bennett fel cadeirydd newydd y mudiad ieuenctid.
Mae hi'n olynu Dyfrig Davies sydd wedi camu'n ôl ar ôl chwe blynedd wrth y llyw.
Yn dilyn ei phenodiad dywedodd Nia: "Rwy'n awyddus i sicrhau bod yr Urdd yn gwbl gynhwysol, yn ymestyn ei gyrhaeddiad ac yn parhau i ddatblygu a gweithredu ar syniadau ein pobl ifanc.
"Drwy gynnig cyfleoedd i bawb - beth bynnag eu cefndir - i ehangu eu sgiliau a'u profiadau, rydym yn cyfrannu at ddatblygiad Cymry'r dyfodol, a thrwy hynny dyfodol Cymru."
Cafodd ei hethol yn ymddiriedolwr yn 2021 ac mae'n gadeirydd Panel Adnoddau Dynol yr Urdd ers 2018.
Yn fam i dri, wedi ei geni yn Bolton a'i magu yn Llanfairpwll, Ynys Môn, mae hi wedi treulio cyfnodau yn byw yn Aberystwyth, Y Felinheli a Brwsel.
Ymgartrefodd wedyn yng Nghaerdydd lle bu'n gweithio yn y maes cynhwysiant ac adnoddau dynol cyn cael ei phenodi yn gyfarwyddwr corfforaethol.
Erbyn hyn mae'n gyfarwyddwr cwmni effectusHR, ac yn ymgymryd â gwaith prosiectau adnoddau dynol ac anogi uwch reolwyr.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Mae'r Urdd hefyd wedi cyhoeddi bod dau aelod newydd wedi'u penodi yn ymddiriedolwyr ifanc, sef Deio Siôn Llewelyn Owen ac Emily Pemberton.
Yn hannu o Grangetown, Caerdydd mae Emily'n gweithio fel Cydlynydd Cydraddoldeb, Amrywiaeth, a Gwrth-hiliaeth i'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Cyfrannodd at Neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd 2023 ac ymweld ag Alabama union 60 mlynedd ar ôl ffrwydrad Eglwys y Bedyddwyr ar 16th Street, Birmingham er mwyn adeiladu ar y berthynas rhwng y ddinas a Chymru.
Yn wreiddiol o gyrion Pwllheli yng Ngwynedd mae Deio bellach yn byw yn y brifddinas ac yn Is-Lywydd Iaith, Diwylliant a Chymuned Cymru cyntaf Undeb Myfyrwyr Caerdydd, ble mae hefyd yn ymddiriedolwr yr undeb a Phrifysgol Caerdydd.
Dywedodd Siân Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd: "Mae'r penodiadau newydd hyn yn sicrhau ein bod yn parhau â'n taith o fod yn sefydliad blaengar.
"Mae amrywiaeth o safbwyntiau, ystwythder yn ein penderfyniadau ac ystod eang o sgiliau perthnasol yn hanfodol i gyflawni ein strategaeth 'Urdd i Bawb'."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd2 Ionawr