Llysgenhadon yn cryfhau cyswllt Cymru ac Alabama

  • Cyhoeddwyd
Criw yr UrddFfynhonnell y llun, Urdd Gobaith Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Y Parchedig Arthur Price gydag aelodau'r Urdd yn Eglwys y Bedyddwyr yn Birmingham, Alabama

Union 60 mlynedd wedi ffrwydrad terfysgol mewn eglwys yn yr Unol Daleithiau, mae cynrychiolwyr o Gymru wedi croesi'r Iwerydd i ddangos undod gyda'r gymuned Affricanaidd-Americanaidd yno.

Ar 15 Medi 1963 fe laddwyd pedair merch ifanc ac anafwyd 22 arall gan fomiau oedd wedi'u gosod gan yr eithafwyr gwyn, y Ku Klux Klan, yn Eglwys y Bedyddwyr 16th Street yn Birmingham, Alabama.

Gyda'r ffrwydrad wedi digwydd yn ystod anterth yr ymgyrch hawliau sifil yno, bwriad y 13 o lysgenhadon yr Urdd yw cael y cyfle i ddysgu mwy am hanes hawliau sifil cyfoethog y dalaith.

Fe ddaw y daith ychydig fisoedd wedi ymweliad Côr yr Efengyl Prifysgol Alabama (UAB) â Chymru er mwyn perfformio a dysgu mwy am ddiwylliant y wlad.

Fel rhan o'r daith Neges Heddwch, dydd Gwener bu llysgenhadon o'r Urdd a Phrifysgol Caerdydd yn mynychu gwasanaeth coffa yn yr eglwys.

Ffynhonnell y llun, Urdd Gobaith Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Eglwys y Bedyddwyr yn Birmingham, Alabama ei hailadeiladu ar ôl cael ei dinistrio gan y bomiau yn 1963

Ffurfiwyd perthynas rhwng y Cymry a chymuned Birmingham yn dilyn yr ymosodiad terfysgol, gan ysgogi'r arlunydd John Petts i ddylunio ffenestr liw fel rhodd i'r eglwys.

Yn dilyn ymgyrch codi arian gan bapur newydd y Western Mail, fe gyflwynwyd y ffenestr i'r eglwys gan bobl Cymru fel arwydd o gefnogaeth ac undod, ac fe'i hadnabyddir hyd heddiw gan drigolion Birmingham fel y Wales Window.

'Galw nhw allan'

Bydd taith yr Urdd yn cynnwys ymweliadau â nifer o adeiladau a sefydliadau hanesyddol ac arwyddocaol eraill a oedd yn hynod bwysig i'r mudiad hawliau sifil.

Mae'r rheiny'n cynnwys Tŷ Rosa Park, Sefydliad Hawliau Sifil Birmingham, Motel AG Gatson a'r Amgueddfa Etifeddiaeth, yn ogystal â gweithdy gyda phobl ifanc Birmingham.

Disgrifiad o’r llun,

Cofeb 'The Four Spirits' i goffau'r pedair merch ifanc a fu farw yn y ffrwydrad - Carol Denise McNair, Addie Mae Collins, Carole Robertson a Cynthia Wesley

Dywedodd prif weithredwr yr Urdd, Siân Lewis: "Rydym mor falch o'r cyfle i gryfhau ein perthynas gyda'r gymuned Affricanaidd-Americanaidd ym Mirmingham, Alabama a rhoi cyfle i aelodau'r Urdd ddysgu mwy am hanes a digwyddiadau'r rhanbarth.

"Yn gynharach eleni, lluniodd ein pobl ifanc Neges Heddwch ac Ewyllys Da hynod bwerus sy'n taflu'r chwyddwydr ar wrth-hiliaeth, gan nodi'n glir, os yw pobl yn dyst i hiliaeth, bod angen i ni eu 'Galw. Nhw. Allan.'

"Mae'n briodol iawn, felly, ein bod ni'n ymweld â Birmingham ar y dyddiad pwysig hwn yng nghwmni'r myfyrwyr a greodd y neges ddylanwadol hon ac a glywyd a rannwyd gan filoedd ledled y byd."

Disgrifiad o’r llun,

Maer Caerdydd ar y pryd wnaeth ddadorchuddio Ffenest Cymru yn 1965, ac mae gwaith John Petts yn parhau yn yr eglwys hyd heddiw

Mae Sian Morgan Lloyd, uwch-ddarlithydd yn Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant Prifysgol Caerdydd, hefyd wedi teithio gyda'r llysgenhadon.

"Rydyn ni'n teimlo'n freintiedig i gael teithio i Firmingham, Alabama gydag Urdd Gobaith Cymru, wrth inni ymchwilio mwy i hanes y mudiad Hawliau Sifil, gan ddod i adnabod a meithrin cyfeillion newydd ar hyd y ffordd," meddai.

"Mae'r myfyrwyr, a fu'n gweithio ar y Neges Heddwch eleni, yn frwd dros ddefnyddio'u llais i greu newid.

"Does gen i ddim amheuaeth y bydd y daith hon yn eu hysbrydoli a'u hysgogi hyd yn oed yn fwy."

Dywedodd Gweinidog Economi Cymru, Vaughan Gething mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol ei fod "wedi cael y fraint y annerch" yr eglwys a rhoi teyrnged i'r pedwar ifanc a gafodd eu lladd 60 mlynedd yn ôl.

Roedd yn gyfle hefyd, meddai, "i ailddatgan y gydgefnogaeth o Gymru a gafodd ei dangos yr holl flynyddoedd yn ôl, gyda rhodd Ffenestr Cymru".

Pynciau cysylltiedig