Cyn-gadeirydd yr Urdd wedi 'poeni am ddyfodol' y mudiad

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
dyfrig davies
Disgrifiad o’r llun,

Fe adawodd Dyfrig Davies ei swydd fel Cadeirydd ym mis Rhagfyr

Mae cyn-gadeirydd Urdd Gobaith Cymru yn dweud ei fod wedi ofni am ddyfodol y mudiad yn ystod y pandemig.

Fe gyhoeddodd Dyfrig Davies ym mis Rhagfyr y byddai'n gadael ei swydd ar ôl chwe blynedd.

Mewn cyfweliad ar raglen Post Prynhawn BBC Radio Cymru, dywedodd bod heriau'r cyfnod clo yn "newid yn gyson" a'i fod yn poeni y byddai'r "cyfan yn dod i ben".

Ychwanegodd bod heriau mawr yn dal i wynebu'r mudiad yn sgil yr argyfwng costau byw.

Roedd Mr Davies yn gyn-gadeirydd ar Fwrdd Eisteddfod yr Urdd cyn dod yn gadeirydd yn 2017, ac roedd yn rhan fawr o ddathliadau canmlwyddiant yr Urdd yn 2022.

Eglurodd fod ansefydlogrwydd cyfnod Covid-19 wedi gwneud iddo boeni am ddyfodol yr Urdd.

"Ro'n i 'di derbyn y fraint enfawr i fynd i'r gadair a bois bach ro'n i'n poeni - 'odi'r cyfan am ddod i ben o dan fy nghadeiryddiaeth i?'" meddai.

"Roedd y pwyllgor argyfwng brys yn cyfarfod bob pythefnos, os nad bob wythnos ar ambell adeg... ac wrth gwrs, wrth i ni drefnu pethau, oedd pethau'n newid yn waeth."

'Gwirfoddolwyr gwych'

Ychwanegodd bod y gefnogaeth a dderbyniodd y mudiad yn ystod y pandemig wedi bod yn hynod werthfawr.

"Rhaid dweud bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn gefnogol iawn yn ystod y cyfnod hynny, ac mi oedd y gwirfoddolwyr, y cefnogwyr a'r aelodau i gyd yn dymuno gweld pethau'n gwella a ro'n nhw gyda ni ar hyd y daith hefyd.

"Mae gyda ni staff a gwirfoddolwyr gwych, sy'n fodlon tynnu at ei gilydd mewn argyfwng.

"Pan mae gyda chi ryw deimlad bo' rhywbeth tu ôl i chi yn eich gyrru chi, mae hynny'n help mawr."

'Bendithion' cyfnod Covid

Ond er yr heriau, mae Mr Davies yn credu bod sawl "bendith" wedi dod o'r sefyllfa.

"Cyn y pandemig roedden ni'n bwriadu edrych ar strwythur llywodraethant yr Urdd a gweld beth yw'r defnydd gorau o'r staff.

"Fe wnaeth Covid orfodi ni i fynd yn gyflymach ar y broses yna.

"Ond, hefyd fe wnaeth Covid helpu'r sector gyhoeddus i ddeall mai'r hyn sy'n gwneud mudiad yn gryf yw'r staff, a'i bod hi'n bwysig gwerthfawrogi'r cyfraniad maen nhw'n ei wneud."

Wrth drafod dyfodol Urdd Gobaith Cymru, dywedodd Mr Davies bod y mudiad yn dal i wynebu heriau mawr.

"Does dim unrhyw amheuaeth bod yr argyfwng ariannol sy'n wynebu ni, o ran arian cyhoeddus, yn mynd i gael effaith enfawr.

"Mae'r mudiad yma'n cynnig gymaint mwy na'r celfyddydau... chwaraeon, gwaith gwirfoddol, ein gwaith dyngarol ni - ond sut wyt ti'n cynnal hynny pan mae arian yn prinhau? Dyma'r her enfawr."

Mewn datganiad wedi'i gyhoeddi ar y cyfryngau cymdeithasol fis diwethaf, dywedodd yr Urdd bod Dyfrig Davies wedi rhoi "cefnogaeth gadarn a chyfeillgarwch arbennig" i'r mudiad dros y blynyddoedd.

Pynciau cysylltiedig