Cynghorau sir yn methu cynnig gofal angenrheidiol i bawb

  • Cyhoeddwyd
Nel Owen ac Eileen Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae Nel Owen yn gofalu am Eileen Jones, 87, yn ardal Porthmadog

Mae cyfuniad o brinder staff, cyflogau isel a phoblogaeth yn heneiddio yn golygu nad ydy rhai cynghorau sir yn medru cynnig gwasanaethau gofal angenrheidiol i bawb.

Yng Ngwynedd, mae'r cyngor yn dweud eu bod nhw'n methu â chwblhau 1,200 o oriau o ofal bob wythnos oherwydd prinder staff a phwysau ariannol.

Ym mis Rhagfyr, rhybuddiodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru fod cynghorau yn wynebu bwlch ariannol o £432m wrth iddyn nhw gael gwybod faint o arian y bydden nhw'n ei gael.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, maen nhw'n wynebu "sefyllfa ariannol eithriadol o galed".

Disgrifiad o’r llun,

Mae Nel Owen yn gofalu am bobl yn y gymuned ac yn dweud bod 'na bwysau enfawr gyda phrinder staff a chyflogau isel

Yn ôl Arolwg Cenedlaethol Cymru o Ebrill 2022 i Fawrth 2023, roedd 5% o'r 12,000 a gafodd eu holi yng Nghymru yn cael rhyw fath o ofal.

Yng Ngwynedd, mae rhwydwaith o ofalwyr yn llwyddo i gynnig gwerth mwy na 9,000 o oriau o ofal bob wythnos.

O'r pethau bach fel gwneud paned a chinio i ofal personol, mae'n wasanaeth hanfodol i filoedd o bobl hŷn sydd am aros yn eu cartrefi.

Mae Nel Owen, o ardal Porthmadog, wedi bod yn cynnig gofal yn y gymuned ers canol y pandemig.

Ond mae'n dweud bod 'na bwysau enfawr gyda phrinder staff a chyflogau isel.

'Y cymorth sydd ei angen'

Galwad cynta'r dydd ydy i gartref Bethan Rees Jones ar gyrion y dref.

Mae Nel yn ei helpu i godi, gwneud paned, bwydo'r ci a chynnau tân.

"Maen nhw'n helpu i mi ymdopi oherwydd fy anawsterau corfforol," meddai Ms Jones.

"Dwi mewn poenau mawr weithia' ac maen nhw'n rhoi'r cymorth imi sydd ei angen."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Bethan Rees Jones yn dweud na fydda hi'n gallu ymdopi heb ofalwyr yn dod i'w chartref

Yn ôl Ms Jones, oni bai am gael help gofalwyr fel Nel, fyddai hi ddim yn gallu byw yn y tŷ sydd wedi bod yn gartref iddi ers dros 50 mlynedd.

"'Swn i'm yn gallu ymdopi hebddyn nhw. Maen nhw'n llenwi bwlch," meddai.

Mae Nel Owen hefyd yn ymweld ag Eileen Jones sy'n cael trafferthion gyda'i golwg.

Mae Ms Owen yn gwneud pethau hanfodol fel sicrhau fod bwyd yn yr oergell yn iawn i'w fwyta ac yn ysgrifennu labeli mawr iddi allu adnabod eitemau yn y tŷ.

"Ma'n bwysig ofnadwy i'n bywydau ni. 'Da ni di talu'n taxes ar hyd ein hoes a rŵan 'da ni isho help, ddim ar ôl i ni farw," meddai Eileen Jones. "Be 'sa ni'n 'neud hebddan nhw?"

Mae 'na bryder am brinder gweithwyr hefyd.

"Does 'na'm digon o staff felly 'da ni methu cael mwy o bobl ar y llyfrau," medd y gofalwr Nel Owen.

"Cyflog ['di un rheswm pam] ac oriau, 'di pobl ddim yn licio'r oriau."

'Methu tua 1,200 o oriau o ofal'

Fe wnaeth Cyngor Gwynedd dderbyn cynnydd o 2% yn eu cyllideb ar gyfer y flwyddyn 2024-2025 ond gan fod lefel chwyddiant yn uwch, mewn gwirionedd mae'n doriad.

"'Da ni'n rhoi 9,000 o oriau o ofal yng Ngwynedd yn unig bob wythnos," medd deilydd portffolio dros oedolion Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Dilwyn Morgan.

"Mae hynny yn swm aruthrol. Mae'n lwmp o waith ond gan ddweud hynny 'da ni'n methu â chyflawni tua 1,200 o oriau.

"Mae gynnon ni bobl allan yn ein cymunedau ond 'da ni methu darparu gofal ar eu cyfer nhw ac mae hynny yn bryder."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Cynghorydd Dilwyn Morgan yn poeni nad oes modd cynnig gofal i bawb yn y gymuned

Wrth ymateb, fe ddywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod wedi cymryd "rhai penderfyniadau anodd iawn i ailddylunio ein cyllideb yn radical ar gyfer 2024-25".

"Rydyn ni'n diogelu'r setliad llywodraeth leol craidd - sy'n ariannu gwasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol - gan ddarparu'r cynnydd o 3.1% i awdurdodau lleol, fel wnaethon ni addo'r llynedd," meddai.

"Mae hyn yn cynnwys cyllid i gefnogi awdurdodau i dalu costau parhaus y Cyflog Byw Gwirioneddol i weithwyr gofal.

"Mae'r data diweddaraf yn dangos bod gwariant ar ofal cymdeithasol yng Nghymru 43% yn uwch y pen nag yn Lloegr. Mae hefyd yn uwch nag yn yr Alban neu Ogledd Iwerddon.

"Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae bron i £145m wedi'i fuddsoddi drwy Gronfa Integreiddio Rhanbarthol Llywodraeth Cymru ar brosiectau a ddarperir gan bartneriaid iechyd a gofal cymdeithasol i ddarparu gofal yn nes at y cartref.

"Rydym yn cydnabod bod yn rhaid i ni ail-lunio gwasanaethau i sicrhau bod ein system iechyd a gofal cymdeithasol yn addas ar gyfer y dyfodol a'n poblogaeth gynyddol sy'n heneiddio. Ein gweledigaeth strategol tymor hwy yw gwasanaeth gofal cenedlaethol yng Nghymru."