Tynhau rheolau llety ymwelwyr 'i wella diogelwch'

  • Cyhoeddwyd
Dinbych-y-PysgodFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl y bydd deddfwriaeth newydd yn cael ei chyflwyno i'r Senedd cyn diwedd y flwyddyn

Bydd yn rhaid i bob llety ymwelwyr yng Nghymru gael eu cofrestru a'u trwyddedu, wrth i'r cyfyngiadau arnyn nhw gael eu tynhau.

Dywed Llywodraeth Cymru eu bod yn disgwyl cyflwyno'r ddeddfwriaeth i'r Senedd cyn diwedd y flwyddyn.

Nod y rheolau newydd yw "gwella profiad ymwelwyr a'r disgwyliadau o ran diogelwch ymwelwyr yng Nghymru".

Bydd yn gwneud hynny "drwy sicrhau bod unrhyw un sy'n gosod llety ymwelwyr yn bodloni cyfres berthnasol o safonau".

O ganlyniad fe fyddai gan Gymru, am y tro cyntaf, gofrestr o'r holl lety sydd ar gael yma ar gyfer ymwelwyr, gan gynnwys "manylion am bwy sy'n gweithredu yn y sector, ble maent yn gweithredu, a sut maent yn gweithredu".

Disgrifiad o’r llun,

Mae economi ymwelwyr "yn newid yn gyflym", medd y dirprwy weinidog sy'n gyfrifol am dwristiaeth, Dawn Bowden

Daw'r cam wedi ymgynghoriad cyhoeddus ac arolwg ble dywedodd 89% of ymwelwyr ei bod hi'n bwysig bod y llety ble maen nhw'n aros yn gweithredu'n ddiogel.

Dywedodd y dirprwy weinidog sy'n gyfrifol am dwristiaeth, Dawn Bowden: "Mae twristiaeth yn gwneud cyfraniad pwysig i economi Cymru ac i fywyd Cymru, felly bydd yr wybodaeth hon yn hanfodol i'n helpu i ddeall y sector yn well, yn ogystal â helpu i lywio penderfyniadau polisi yn y dyfodol ar lefel leol a chenedlaethol.

"Mae'r economi ymwelwyr yn newid yn gyflym, ac er bod twf llwyfannau archebu ar-lein wedi dod â llawer o fanteision, mae pryderon ynghylch cydymffurfio â'r gofynion presennol ac effaith gosod tai yn y tymor byr ar y stoc tai a'n cymunedau."

'Mwy o degwch i bawb'

Mae'r cynllun trwyddedu yn rhan o'r cytundeb cydweithio yn y Senedd rhwng y llywodraeth Lafur a Phlaid Cymru.

Dywedodd AS Plaid Cymru, Sian Gwenllian y bydd "yn creu cynnig twristiaeth mwy cynaliadwy - wedi'i ddarparu yn unol ag anghenion a phryderon cymunedau, yn enwedig o ran tai".

Ychwanegodd: "Bydd hyn yn arwain at reolaethau cryfach ar eiddo preswyl sy'n gweithredu fel llety gwyliau tymor byr, gan arwain at fwy o degwch i bawb."

Mae cynlluniau trwyddedu, ardystio neu gofrestru llety ymwelwyr eisoes ar waith yn rhannau eraill o'r byd, gan gynnwys yng Ngogledd Iwerddon ers 1992.

Fe gyflwynodd Yr Alban gynllun trwydded ym mis Hydref ar gyfer gosod llety am gyfnod byr, ac mae Llywodraeth y DU hefyd yn bwriadu dilyn dull cofrestru ar gyfer gosod tymor byr.

Ers Ebrill 2023 mae gan gynghorau sir Cymru hawl i godi premiwm hyd at 300% ar ail gartrefi a llety gwyliau.

Pynciau cysylltiedig