Gemma Grainger yn ymddiswyddo fel rheolwr Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae Gemma Grainger wedi ymddiswyddo fel rheolwr tîm pêl-droed cenedlaethol menywod Cymru er mwyn cymryd yr awenau yn Norwy.
Mae Grainger, 41, wedi bod wrth y llyw gyda Chymru ers bron i dair blynedd.
"Dros y tair blynedd ddiwethaf rwyf wedi rhoi fy nghalon ac enaid i'n taith, a byddaf yn ddiolchgar am byth o fod wedi cael y cyfle i weithio gyda'r tîm hwn a'r genedl falch hon," meddai Grainger, sy'n dod o Loegr.
"Mae wedi bod yn anrhydedd ac yn fraint cael gweithio gyda'r grŵp yma o chwaraewyr a staff, ac i gynrychioli cenedl sydd wedi cefnogi'r tîm gyda balchder ac angerdd anhygoel.
"Doedd gen i ddim bwriad gadael Cymru, ond rydw i wedi cael cynnig cyfle annisgwyl na allwn ei wrthod.
"Gobeithio eich bod yn gwybod nad yw'r penderfyniad i adael wedi ei wneud yn ddifeddwl."
Ychwanegodd: "Rydw i wir yn credu bod y tîm hwn yn barod i gymryd y camau nesaf a chyrraedd twrnament.
"Rwy'n hyderus y gall y tîm barhau i adeiladu a thyfu o'r pwynt hwn ymlaen.
"Bydd gan Gymru le yn fy nghalon am byth, diolch am bopeth."
Dywedodd prif weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Noel Mooney ei fod yn "diolch yn ddiffuant am yr hyn mae Gemma wedi'i gyflawni yn ystod ei chyfnod fel rheolwr".
"Mae CBDC yn uchelgeisiol, a thra ein bod ni nawr yn dechrau cyfnod o recriwtio ar gyfer rheolwr newydd, rydyn ni'n canolbwyntio'n gadarn ar wneud popeth o fewn ein gallu i gyrraedd Euro 2025 a Chwpan y Byd 2027."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd19 Mawrth 2021